Hybu Cig Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru.
Uchelgais HCC yw i wneud ffermio defaid a gwartheg eidion yng Nghymru yn enghraifft fyd-eang o sut i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy ac effeithlon.
Mae HCC yn anelu at wella ansawdd, cynyddu cost-effeithiolrwydd ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion cig coch ar draws yr holl gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Gwneir hyn trwy ddarparu gwybodaeth yn ogystal â chynyddu, hyrwyddo ac ymgynefino â'r defnydd o dechnoleg oddi mewn i'r diwydiant.
Mae HCC yn gweithredu fel gwarcheidwad y brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, gan ddarparu ymgyrchoedd i ddefnyddwyr a gweithgareddau hyrwyddo sy’n codi ymwybyddiaeth a galw am Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar raddfa fyd-eang.
Prosiectau a'n rhaglenni
Am ein prosiectau a'n rhaglenniNewyddion Diweddara
Darllenwch fwyAdnoddau
HCC yw “Tŷ Gwybodaeth” y diwydiant ac mae’r gwyddoniadur cynhwysfawr hwn o fentrau ffermio yn tynnu ar fwy nag 20 mlynedd o ymchwil ar draws y diwydiant a fydd yn eich helpu i adeiladu busnes sydd yn fwy diogel, proffidiol a chynaliadwy.
Mae’n gartref i gannoedd o ganllawiau ymarferol, data manwl, awgrymiadau rhagorol, astudiaethau achos gan gymheiriaid, cyngor technegol, canlyniadau ymchwil o’r DG ac yn rhyngwladol, awgrymiadau am gynaliadwyedd ac arloesedd blaengar yn y diwydiant.