Mae defnyddwyr yn Siapan wedi rhoi’r marciau uchaf I Gig Oen Cymru GI am ei flas ac wedi dweud y byddent yn siŵr o ddewis ei fwyta eto, yn ôl arolwg a wnaed gan y gadwyn fwytai o Tokyo, Kirin City.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi bod yn gweithio’n glos gyda’r gadwyn ac allforiwr o Gymru i sicrhau fod Cig Oen Cymru yn ymddangos ar fwydlenni yn ystod tymor Cig Oen Cymru. Mae ymweliad yn ddiweddar â Tokyo, a oedd yn cynnwys ymgysylltu â’r sector gwasanaeth bwyd, yn ogystal â phresenoldeb yn sioe fasnach fwyaf Asia, FoodEx, wedi bod o gymorth pellach i HCC ac allforwyr i gryfhau’r berthynas bwysig ac i ddatblygu cyfleoedd marchnata.
Gwnaeth Kirin City, sydd â 27 o dai bwyta ledled Tokyo, gynnwys Cig Oen Cymru ar ei fwydlenni yn ystod Ionawr a Chwefror a bu’n cynnal arolwg ymhlith 5,000 o’i gwsmeriaid.
Pan ofynnwyd iddyn nhw a fyddent yn dewis bwyta Cig Oen Cymru eto, dywedodd 64% y byddent wrth eu bodd yn gwneud hynny a dywedodd 23% y byddent yn bwyta Cig Oen Cymru eto. Yn ogystal, gofynnwyd beth oedd barn y ciniawyr am flas Cig Oen Cymru; dywedodd 68% ei fod yn ardderchog a dywedodd 18% ei fod yn dda iawn.
Cafodd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod yn swyddogol yn ddiweddar â statws Dynodiad Daearyddol (GI) yn Siapan. Mae'r statws gwarchodedig yn golygu bod hawl allforio'r cynhyrchion premiwm i Siapan gyda sicrwydd ychwanegol eu bod wedi'u diogelu rhag cynhyrchion sy’n eu hefelychu.
Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup, a oedd yn cynrychioli HCC yn Siapan yn ystod FoodEx: “Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn wych, ac rydym wrth ein bodd fod defnyddwyr yn Tokyo yn cytuno bod Cig Oen Cymru’n flasus ac y bydden nhw’n ei fwyta eto. Drwy fynychu FoodEx ac ymgysylltu â chynrychiolwyr allweddol o’r sector gwasanaethau bwyd, megis Kirin City, rydym yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi’i wneud, ac sydd wedi sicrhau’r lle amlwg i Gig Oen Cymru ar fwydlenni gourmet yn y farchnad newydd bwysig hon.
“Rydym wrth ein bodd yn parhau i adrodd hanes y cynnyrch premiwm hwn, sy’n seiliedig ar dreftadaeth a dulliau cynhyrchu cynaliadwy sydd yn arwain y byd. Mae gwaith ymgysylltu ein tîm masnach, a gafodd ei wneud mewn cydweithrediad ag allforwyr, ar ran y talwyr ardoll, wedi dod â chanlyniadau nodedig a bydd hyn yn dal i fod yn elfen hollbwysig o’n gwaith hyrwyddo a datblygu’r farchnad.”
Dywedodd Patrick Orchard, Uwch Reolwr Cyfrifon yn Kepak: “Rydym wrth ein bodd fod ein Cig Oen Cymru PGI bellach ar gael i gwsmeriaid yn Siapan. Rydym wedi gweithio'n ddiwyd i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid a’u defnyddwyr, i ddarparu cynnyrch o ansawdd uchel. Mae gennym gynlluniau i ddatblygu ymhellach yr hyn sy’n cael ei gynnig , a chynyddu ymwybyddiaeth o Gig Oen Cymru yn Siapan ac ar draws Dwyrain Asia.”