Mae prisiau ŵyn pwysau marw wedi cynyddu dros 20 y cant yn ystod y naw wythnos diwethaf – gyda mwy o alw gan ddefnyddwyr cig oen adeg gwyliau crefyddol a llai o ŵyn yn cyrraedd y farchnad yn bennaf gyfrifol.
Mae naw cynnydd wythnosol yn olynol yn y prisiau wedi mynd â phris SQQ cyfartalog ŵyn pwysau marw ledled Prydain i bron i £7.90/kg, sef cynnydd o £1.74 ers wythnos gyntaf 2024, yn ôl rhifyn newydd Bwletin y Farchnad Hybu Cig Cymru (HCC).
Roedd y pris diweddaraf, ar gyfer yr wythnos yn diweddu 16 Mawrth, yn uwch na'r pris uchaf a gofnodwyd y llynedd, sef tua £7.43/kg ym mis Mai, ac mae oddeutu 50 y cant yn uwch na'r cyfartaleddau hanesyddol.
Mae llai o gyflenwad a gwyliau crefyddol, pan mae cig oen yn cael ei fwyta’n draddodiadol, wedi cyfrannu at y prisiau uwch, yn ôl Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. “Caiff mwy o gig oen nag arfer ei fwyta yn ystod gwyliau crefyddol, ac eleni mae’r Pasg a Ramadan – yr ŵyl Islamaidd sy’n cynyddu’r galw am broteinau fel cyw iâr a chig oen – yn digwydd ym mis Mawrth,” esboniodd Glesni.
“Mae’r digwyddiadau hyn, ynghyd â’r crebachu yn niadelloedd defaid magu yn y DG a Chymru, yn golygu bod y cyflenwad ŵyn sy’n dod ar y farchnad ar hyn o bryd yn gyfyng o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac i ateb i galw presennol,” meddai.
Ychwanegodd fod data trwybwn gan Defra ar gyfer y cyfnod o fis Mai 2023 tan fis Chwefror 2024 yn dangos bod 10.2 miliwn o ŵyn wedi cael eu prosesu yn y DG hyd yma eleni, sy’n debyg i’r nifer yn y flwyddyn flaenorol. Serch hynny, roedd arolwg mis Mehefin wedi dangos fod tua chwech y cant yn llai o ŵyn wedi cael eu geni nag yn y flwyddyn flaenorol. “Mae hyn yn dangos taw nifer cyfyngedig o ŵyn sydd ar ôl ar y ffermydd,” meddai Glesni.
Mae’r patrymau masnach hefyd wedi rhoi rhywfaint o anogaeth i’r farchnad gartref, gydag amcangyfrifon HCC o ddata Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn datgelu bod allforion cig defaid o Gymru yn gryf yn 2023 – cafwyd cynnydd o ddeg y cant o ran gwerth i gyfanswm o £190.9 miliwn. “Mae hyn yn awgrymu, er gwaethaf y twf economaidd lleiaf posibl ar draws marchnadoedd y byd oherwydd lefelau chwyddiant, fod galw o hyd am gig oen yn y gwledydd sy’n mewnforio ein cig,” meddai Glesni.
Roedd hi o’r farn y bydd masnachu yn 2024 yn parhau i fod yn gystadleuol. “Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol, mae yna ragor o ddyddiau gŵyl allweddol yn 2024. Mae gŵyl Qurbani, ‘gŵyl y wledd’, er enghraifft, ar fin digwydd ganol mis Mehefin, a gallai argymhellion Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru roi pwysau pellach ar niferoedd,” proffwydodd Glesni.