Mae cynhyrchwyr cig eidion o Gymru ar fin camu i’r llwyfan gyda Hybu Cig Cymru (HCC) yn ystod Wythnos Cig Eidion Prydain Fawr (23-30 Ebrill) er mwyn dangos pa mor gynaliadwy yw’r sector.
Fel rhan o’i weithgarwch, a fydd yn cynnwys ffermwyr cig eidion o bob rhan o Gymru, mae HCC hefyd yn tynnu sylw at y camau ymarferol y gall ffermwyr cig eidion eu cymryd i wella effeithlonrwydd ar ffermydd a hybu proffidioldeb, yn ogystal â dangos i ddefnyddwyr bum ffordd wahanol o ddefnyddio cig eidion Cymru PGI trwy gyfrwng ryseitiau blasus.
Mae’r ymgyrch, a gynhelir ledled Prydain, yn dangos pa mor hyblyg a blasus yw cig eidion cartref, a bydd hefyd yn rhoi sylw i ymrwymiad ac ymroddiad ffermwyr cig eidion i arferion cynaliadwy.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Heb yr holl law rydym yn ei gael yma yng Nghymru, ni fyddai hanes cig eidion Cymru fel y mae. Caiff y mwyafrif llethol o wartheg cig eidion Cymru eu magu mewn systemau ffermio nad ydyn nhw’n ddwys, ac sy’n ddefnyddio adnoddau naturiol ein gwlad, sef dŵr a glaswellt.
“Mae gan gig eidion Cymru PGI stori anhygoel i’w hadrodd – gan y bobl sy’n ei gynhyrchu, rhinweddau cynaliadwy ac amgylcheddol ein cig eidion Cymreig, yn ogystal â’i hyblygrwydd a’i flas gwych. Dyna’r pethau y bydd HCC yn eu hyrwyddo a’u pwysleisio yn ystod yr wythnos – gan ddefnyddio dull amlochrog o amlygu’r rhinweddau unigryw Cymreig sy’n apelio cymaint at ddefnyddwyr.”
Wrth gyfeirio at gynaliadwyedd cynhyrchu cig eidion yng Nghymru, dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisïau’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae gan bob sector o weithgarwch dynol – gan gynnwys amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd – ran i’w chwarae wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd a mynd i’r afael â chwestiynau am gynhyrchu bwyd cynaliadwy.
“Mae HCC yn cydnabod fod rhaid gwneud dewisiadau anodd, a dod o hyd i atebion creadigol, i fod yn deg wrth fwydo poblogaeth y byd sy’n tyfu heb ddiraddio’r amgylchedd ymhellach ac ychwanegu at y newid yn yr hinsawdd. Credwn yn angerddol fod bwyd a ffermio yng Nghymru eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol, a byddwn yn cefnogi’r sector cig coch i sicrhau ei fod yn barod i wynebu heriau’r dyfodol.”
Ychwanegodd Ben Williams, ffermwr cig eidion a defaid sy’n perthyn i’r bedwaredd genhedlaeth, ac sy’n ffermio ochr yn ochr â’i frawd Ethan ar Fferm Y Garth ar gyrion Caerdydd: “Dydyn ni ddim yn ffermio’r tir glas brodorol yn ddwys . Rydyn ni’n gadael i'r anifeiliaid dyfu'n arafach, ac felly mae’r braster yn cael ei ddosbarthu’n well yn y cig. Pan fydd ein cwsmeriaid yn gweld lle mae ein hanifeiliaid yn pori, mewn amgylchedd naturiol yng nghanol y tir glas brodorol a’r grug, rwy’n meddwl y gallan nhw flasu’r gwahaniaeth.”
Mae fferm Y Garth yn gartref i’r teulu Williams sydd wedi gofalu am y tir oddi ar 1959. Ar hyn o bryd mae’r teulu’n cadw diadell o bron i 700 o famogiaid (Mynydd De Cymru, croesiadau Suffolk, Mynydd De Cymru Duon) ac ugain o hyrddod (Mynydd De Cymru a Mynydd Cymreig Duon). Hefyd, mae gan y teulu Williams fuches o wartheg Duon Cymreig pedigri sy’n cynnwys 46 o fuchod sugno a dau darw a rhai moch Cymreig.
Mae’r tir yn cwmpasu Mynydd y Garth, sef heneb gofrestredig, ac mae’r teulu Williams yn chwarae rhan hollbwysig fel ceidwaid y tir. Mae eu ffordd o reoli’r pori yn golygu bod bioamrywiaeth yn gallu ffynnu, ac ar yr un pryd mae eu hanifeiliaid yn cael y maeth gorau, drwy fwydo ar laswellt a pherlysiau fel y bwriadwyd gan natur.
“Gwnaeth fy nhad-cu waith ar y mynydd yn y 1950au, a bu hynny’n fodd i wella’r fioamrywiaeth yn fawr. Gall ymwelwyr â Mynydd y Garth heddiw werthfawrogi byd natur ar ei orau – gydag adar fel ehedyddion a chudyllod cochion yn ffynnu.
“Mae yma amgylchedd cyfoethog gyda rhywogaethau o laswellt brodorol a choetir brodorol. Rydym wedi plannu 80,000 o goed dros y blynyddoedd ac wedi parhau i blygu gwrychoedd – sy’n hafan i fywyd gwyllt – yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf. Mae yna ddigon o orchudd coed, ac felly mae gennym lawer o adar yn nythu yma.
“Mae’n dda gwybod bod ein gwartheg, wrth bori yn yr amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol hwn, yn helpu i’w ddiogelu. Credaf taw dyna sy’n gwneud Cig Eidion Cymru mor arbennig,” ychwanegodd Ben.