Beth yw dynodiad daearyddol gwarchodedig?
Dynodiad daearyddol gwarchodedig (PGI) Mae PGI yn pwysleisio’r berthynas rhwng y rhanbarth daearyddol penodol ac enw’r cynnyrch, lle mae ansawdd, enw da neu nodwedd arall i’w briodoli yn ei hanfod i’w darddiad daearyddol.
Dyfarnwyd statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Gorffennaf 2003 a Thachwedd 2002 yn ôl eu trefn. Mae HCC yn ystyried y statws PGI yma i fod o fantais economaidd anferthol i ddiwydiant cig coch Cymru gan ei fod yn tynnu sylw at darddiad a rhinweddau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. O’r 1 Ionawr 2021 daeth yr holl enwau cynhyrchion a ddiogelir yn yr UE hefyd yn cael eu gwarchod o dan gynllun GI y DU.
Mae gan HCC gyfrifoldeb cyfreithiol i weithredu fel gwarcheidwaid y dynodiad PGI ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Er mwyn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn ac i sicrhau bod y brandiau’n cael eu diogelu, mae HCC wedi rhoi cynllun gwirio ar waith ar gyfer lladd-dai a safleoedd torri. Golyga’r cynllun hwn bod modd rheoli a monitro’n ofalus i sicrhau mai dim ond cig oen ac eidion sy’n cwrdd â’r fanyleb sy’n cael ei labeli fel cig o Gymru.
Ym mhob rhan arall o’r gadwyn gyflenwi, gwneir y rheoli a’r monitro gan Swyddogion Safonau Masnach yr awdurdod lleol. Mae hyn yn sicrhau mai dim ond cig oen ac eidion sy’n cwrdd â’r fanyleb isod a werthir i gwsmeriaid fel cig o Gymru.
- Wedi’i eni a’i fagu yng Nghymru;
- Yn gwbwl olrheinadwy; ac
- Wedi’i ladd a’i brosesu mewn lladd-dy/safle prosesu cig sydd wedi’i awdurdodi gan HCC.