Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn tynnu sylw at y rhan sydd gan gig coch i’w chwarae mewn diet a ffordd o fyw iach wrth i filoedd o ddisgyblion a myfyrwyr ledled Cymru baratoi ar gyfer arholiadau yn ystod yr haf.
Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr: “Mae diet a ffordd o fyw yn ffactorau pwysig i rieni a myfyrwyr eu hystyried wrth baratoi i sefyll arholiadau. Gall cael prydau maethlon a chytbwys - fel cig coch Cymru, sydd yn cynnwys proteinau â llawer o faetholion – fod yn ffordd hollbwysig i rieni gynorthwyo dysgwyr drwy gydol cyfnodau llawn straen yr arholiadau ac adolygu.”
Gall cig coch Cymru chwarae rhan bwysig mewn diet cytbwys oherwydd mae’n cynnig llawer o faetholion. Mae’r rhain yn cynnwys protein naturiol, haearn, sinc a fitamin B12. Gall y protein cyflawn sydd i’w gael mewn Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI helpu unigolion i deimlo’n llawn a’u helpu i osgoi’r temtasiwn i fwyta byrbrydau melys neu hallt. Hefyd, mae’r haearn sydd mewn cig coch yn cael ei amsugno’n rhwydd ac mae’n atal blinder a lludded.
Ychwanegodd Elwen: “Gwyddom fod Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cynnig llu o fanteision iechyd i bobl, ac mae llawer ohonyn nhw’n arbennig o ddefnyddiol yn ystod tymor yr arholiadau. Gall fitamin B12, er enghraifft, helpu i ryddhau egni tra bod sinc yn helpu’r system imiwnedd, sef dau beth sy’n allweddol i fyfyrwyr yng nghanol arholiadau.”
“Mae gennym amrywiaeth eang o ryseitiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd yn faethlon, yn gyflym i’w paratoi ac yn berffaith ar gyfer rhieni, myfyrwyr a theuluoedd. Byddwn yn argymell seigiau fel Bolognese Cig Eidion Cymru neu amlenni tica Cig Oen Cymru sydd â chydbwysedd delfrydol o brotein, carbohydrad a llysiau i’r teulu cyfan eu mwynhau.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i ddeall mwy am gyfraniad cig coch Cymru tuag at ddiet iach a chytbwys, ewch i https://eatwelshlambandwelshbeef.com/cy/iechyd/manteision-maethol-cig-coch/