Mae’r corff hyrwyddo cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) yn recriwtio pobl ifanc o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi i fod yr aelodau cyntaf erioed o’r rhaglen newydd sbon, Cig-weithio.
Wedi’i lansio heddiw (dydd Llun 20 Mai), nod y fenter newydd yw dod ag unigolion angerddol a brwdfrydig ynghyd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad o strwythur y diwydiant a chynhyrchu cig coch o’r fferm i’r fforc.
Drwy gymryd rhan mewn cyfanswm o bum diwrnod gyda themâu penodol wedi’u neilltuo ar gyfer pob un, ac un diwrnod arall yng nghwmni mentor o’r sector yn eu gweithle, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn manteisio drwy wneud cysylltiadau newydd o Gymru, y DU ac yn fyd-eang. Byddant hefyd yn cael cyfle i weithio fel grŵp ar brosiect o’u dewis a fydd yn seiliedig ar y diwydiant, gyda’r nod o gynhyrchu canlyniadau, gwybodaeth a data newydd i’r diwydiant.
Meddai Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth y Farchnad ac Ymchwil a Datblygu yn HCC: “Rydym ni’n gyffrous iawn i lansio’r rhaglen newydd yma ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau di-rif a chyfleoedd newydd, gwerthfawr i’r unigolion llwyddiannus.
“Rydym ni’n targedu pobl rhwng 21-35 mlwydd oedd a gallant fod yn ffermwyr, yn broseswyr, yn gigyddion, yn gweithio gyda’r manwerthwyr neu’n gogyddion – neu unrhyw un arall sy’n ymwneud a’r gadwyn gyflenwi cig coch. Mae’n rhaid iddynt fod yn angerddol am gynhyrchu a hyrwyddo cig coch, â diddordeb mewn ymchwil a datblygu ac yn awyddus i weld datblygiadau o fewn y diwydiant.
“Yn ystod chwe diwrnod y rhaglen, a drefnir dros gyfnod o 12 mis, byddwn ni’n cyflwyno’r grŵp i’w mentoriaid o’r diwydiant a bydd hynny’n arwain at brofiad ymarferol yn y gweithle. Byddwn ni hefyd yn cyflwyno modiwlau gyda themâu penodol gyda siaradwyr arbenigol ar destunau yn amrywio o’r amgylchedd ffermio i brosesu ac ymwybyddiaeth defnyddwyr, ac yn eu hannog i gydweithio ar brosiect ymchwil.”
Ychwanegodd: “Yn ogystal, bydd cyfleoedd i’r aelodau weithio gyda HCC ar weithgarwch hyrwyddo yn y dyfodol a dod yn llefarwyr ar ran ein sector cig coch yma yng Nghymru.
“Os hoffech chi fod ymysg aelodau cyntaf Cig-weithio, os oes gennych wybodaeth, dealltwriaeth a syniadau ar sut i ddatblygu’r sector yn y dyfodol ond hefyd yn awyddus i ddatblygu a dysgu mwy, ymgeisiwch heddiw!”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5yh, ddydd Gwener 7 Mehefin. Mae’r ffurflen gais ar gael i’w lawrlwytho o wefan HCC.