Brexit a masnach
Gyda Phrydain wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae gwaith diweddar wedi ffocysu ar effaith posib gwahanol sefyllfaoedd o ran cefnogaeth amaethyddol, mynediad i farchnadoedd a mudo ar amaeth a phrosesu yng Nghymru.
Mae dolen i astudiaeth sectorau, a wnaethpwyd ar y cyd gyda’n partneriaid mewn rhannau eraill o Brydain, isod, a gwelwch y dudalen hon ar gyfer dolenni i gyngor i fusnesau ar y newidiadau y bydd rhaid iddynt ystyried nawr fod Prydain wedi gadael yr UE.
Cytundeb Masnach Rydd Awstralia
Fe gyhoeddwyd ar 15 Mehefin 2021 bod y DU ac Awstralia wedi cytuno ar amlinelliad o gytundeb masnach rydd. Mae HCC wedi llunio dadansoddiad o’r cytundeb arfaethedig hwn, sydd ar gael gan Adnoddau isod.