Mae ffermwyr da byw yng Nghymru yn cael eu hannog gan Hybu Cig Cymru (HCC) i fod yn wyliadwrus am arwyddion o firws y Tafod Glas mewn defaid a gwartheg.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion byw o'r Tafod Glas yng Nghymru a dim tystiolaeth fod y firws yn cylchredeg. Fodd bynnag, wrth i'r tywydd gynhesu mae’n fwy tebygol y gwelir achosion yng ngwledydd Prydain.
Caiff firws y tafod glas ei drosglwyddo'n bennaf gan frathiadau gwybed ac mae'n cael effaith ar wartheg, geifr a defaid. Gall yr effeithiau ar anifeiliaid sy’n agored i niwed amrywio’n fawr. Nid yw rhai yn dangos unrhyw arwyddion clinigol nac effeithiau ond gall achosi problemau cynhyrchiant mewn eraill, ac yn yr achosion mwyaf difrifol gall achosi marwolaeth.
Dywedodd Arweinydd Darpariaeth i Gynhyrchwyr a Phroseswyr HCC, John Richards: “Mae’n debygol y bydd yr achosion cyntaf o’r Tafod Glas yn y DG yn cael eu canfod ar hyd arfordir de Lloegr wrth i’r afiechyd symud tuar gogledd o Ewrop. Fodd bynnag, rydym yn annog ffermwyr da byw Cymru i fod yn wyliadwrus, yn enwedig wrth i’r tywydd gynhesu.”
Ychwanegodd John: “Dydy’r clefyd ddim yn cael effaith ar ddiogelwch bwyd a does dim bygythiad i iechyd pobl. Serch hynny, o ystyried y goblygiadau posibl ar les anifeiliaid a chynhyrchiant, dylai ffermwyr roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch y clefyd i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.