Mae ffermio wedi wynebu gaeaf heriol ac mae tywydd gwlyb drwy’r amser wedi peri llawer o heriau i’r diwydiant, a disgwylir i rai ohonynt gael effaith ar y gaeaf a’r hydref sydd i ddod – gan gynnwys y cynhaeaf.
Er mwyn helpu’r diwydiant i baratoi ar gyfer yr heriau sydd o’i flaen, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynnal gweminar ar y cyd â’r Rhwydwaith Cymunedol Ffermio (FCN) a Chyfrifyddion LHP i drafod pa gamau y gall ffermwyr eu cymryd nawr i baratoi ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Cynhelir y gweminar nos Fercher 26 Mehefin am 7pm ac mae’n agored i bawb.
Yn ymuno â’r weminar mae Rheolwr Rhwydwaith Cymunedol Ffermio Cymru, Linda Jones, a fydd yn rhoi sylw i sut y gall ffermwyr gadw eu hunain yn iach yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn mynd i’r afael â’r cyfnod heriol sydd o’u blaenau; bydd William Howell, uwch gyfrifydd amaethyddol o fewn tîm amaethyddiaeth Cyfrifyddion LHP, yn trafod atebion ymarferol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd ariannol heriol ar y fferm a bydd Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC, James Ruggeri, yn trafod y ffordd orau o baratoi ar gyfer gaeafau gwlyb o ran tir a da byw.
Wrth siarad cyn y digwyddiad rhithwir, dywedodd James Ruggeri:
“Mae’r gaeaf a’r gwanwyn diwethaf wedi cyflwyno rhai heriau anodd i’r diwydiant. Doedd llawer o ffermwyr ddim yn gallu rhoi gwrtaith ar eu caeau yn y modd arferol oherwydd gwlybaniaeth, a bydd hyn yn ei dro yn cael effaith ar silwair a thyfiant y borfa. Mae eraill wedi wynebu problemau fel Schmallenberg yn eu diadelloedd, ac ar y cyfan mae'r gaeaf wedi achosi problemau meddyliol.
“Er na allwn reoli’r tywydd, na phroblemau afiechyd fel Schmallenberg yn ystod y tymor wyna, mae yna ffyrdd y gallwn baratoi ar gyfer y tymor nesaf.
“Rydym am weld diwydiant ffermio cryf a bydd HCC, ochr yn ochr ag FCN a Chyfrifyddion LHP yn trafod pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i sicrhau ein bod wedi paratoi’n dda ar gyfer tymor y gaeaf sydd i ddod. Gobeithio y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar y noson.”
Ychwanegodd Linda Jones: “Byddwn yn clywed yn aml am wneud ffermio yn gadarn. Ond beth mae hynny'n ei olygu i iechyd a lles pobl yn y diwydiant amaethyddol? Bydd y digwyddiad hwn yn darparu gwybodaeth i helpu ffermwyr i adnabod eu cryfderau a bydd hefyd yn amlygu meysydd lle gallai fod angen rhywfaint o gymorth arnyn nhw.”
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad e-bostiwch: info@hybucig.cymru erbyn dydd Llun 24 Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â thim cyfathrebu HCC ar press@hybucig.cymru