Roedd y ffigurau diweddaraf ar gyfer ŵyn yn cael eu prosesu ychydig yn uwch na’r disgwyl, yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan Defra, a chroesawyd hyn gan Hybu Cig Cymru (HCC). Fodd bynnag, mae’r corff hybu cig coch wedi mynegi pryderon am y gostyngiad cyffredinol yn nifer yr ŵyn sy’n cael eu cynhyrchu.
Er bod nifer yr ŵyn a gynhyrchwyd yn 2023-24 tua chwech y cant yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol, yn ôl arolwg mis Mehefin, roedd HCC yn falch o nodi’r hyn a ragwelir yn ei adroddiad ‘Rhwng y Llinellau – Cyflenwad Cig Oen: Diweddariad a Rhagolygon’ a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024, sef y byddai cyfanswm y trwybwn ŵyn ar gyfer 2023-24 yn cyfateb i oddeutu 11.9 miliwn o ŵyn.
Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Defra wedi datgelu bod 12.0 miliwn o ŵyn wedi cael eu prosesu yn ystod y flwyddyn a oedd yn canolbwyntio ar yr ŵyn a gynhyrchwyd rhwng Mai 2023 ac Ebrill 2024 – sydd tua 1% yn uwch na’r hyn a ragwelwyd gan HCC.
Roedd yr adroddiad hefyd yn amcangyfrif bod 3.6 miliwn o ŵyn ar ôl heb eu lladd ar y ffermydd yn ystod y flwyddyn dan sylw. Mae ffigurau trwybwn Defra ar gyfer Ionawr i Ebrill 2024 yn awgrymu bod cyfanswm o 3.7 miliwn o ŵyn wedi cael eu prosesu yn ystod y cyfnod, sef tua 3% yn fwy na’r amcangyfrif.
Fodd bynnag, er bod hyn yn dangos cynnydd bychan, mae pryderon yn parhau gan fod cyfanswm yr ŵyn a broseswyd yn ystod y flwyddyn gyfan (12.0 miliwn) yn 2.5% (bron i 304,000) yn llai nag ar gyfer y flwyddyn flaenorol (2022-23) ac yn 5% yn llai eto na'r cyfartaledd pum-mlynedd.
Dywedodd Glesni Phillips – Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddiad a Mewnwelediad Busnes HCC: “Mae’r ffigurau hyn i’w croesawu ac rydym yn falch o weld ychydig yn fwy o ŵyn nag a ragwelwyd yn wreiddiol. Mae'n bosibl bod y prisiau uchaf erioed i ffermwyr wedi annog hyn. Fodd bynnag, gallai hyn olygu bod cynhyrchwyr wedi cadw llai o ŵyn benyw ar gyfer magu, a gallai gael effaith ar faint y ddiadell fagu yn nes ymlaen.
Ychwanegodd Glesni fod hyn hefyd yn codi pryderon ynghylch y màs critigol cyffredinol ac yn amlygu goblygiadau ehangach o bosibl.
“Os bydd y crebachu cyffredinol presennol yn parhau, gallem weld effaith ar yr economi wledig ehangach. Er enghraifft, mae canolfannau prosesu yng Nghymru yn cyflogi cannoedd o bobl ac os bydd y gostyngiad yn nifer yr ŵyn yn parhau, gall y bydd unedau yn cael eu cyfuno ar draws y DG ac y bydd swyddi’n cael eu colli yng Nghymru,” meddai.
Yn ogystal, tynnodd Glesni sylw at y ffaith bod disgwyl i'r galw gynyddu ar y farchnad gartref, gyda gŵyl Islamaidd arall - Eid Al-Adha - (yn dechrau ar 16 Mehefin 2024) ar y gorwel.
“Efallai y bydd hyn yn arwain at brisiau ffafriol i ffermwyr yn gynnar ym mis Mehefin. Gyda chyflenwad cynyddol ar y farchnad ddomestig, wrth i ŵyn y tymor newydd gael eu gwerthu, y gobaith yw y byddwn hefyd yn gweld mewnforion yn sefydlogi,” ychwanegodd.