Mae’r diwydiant amaethyddol eisoes wedi wynebu heriau anodd eleni, sydd wedi cael effaith ar iechyd meddwl a lles ledled y wlad. Felly, mae Hybu Cig Cymru (HCC) ynghyd â Sefydliad DPJ yn annog pobl i ddod at ei gilydd yr wythnos farbeciw hon (3 – 9 Mehefin) i gynnau’r gril a rhannu’r gwaith.
Er bod yr haf yn amser prysur i'r diwydiant, mae'n bwysig cael rhywfaint o amser segur, treulio amser gwerthfawr gyda theulu a ffrindiau a mwynhau diet iach a chytbwys.
“Pan rydyn ni dan straen, gall ein hiechyd meddwl ddioddef. Mae mor bwysig ein bod yn gofalu am ein hiechyd meddwl ond hefyd yn ystyried bwyd iach wrth ofalu am ein hunain. Yn llawn dop o fitaminau a mwynau hanfodol, gall diet cytbwys gyda chig coch heb lawer o fraster ein helpu i gadw’n heini ac yn iach, waeth beth yw ein hoed.
“Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn ychwanegiad gwych at unrhyw farbeciw ac mae eistedd gyda’n hanwyliaid wrth fwynhau bwyd danteithiol yn ffordd wych o ddod â’r pethau hynny at ei gilydd,” meddai Liz Hunter, Uwch Swyddog Marchnata Digidol HCC.
Gall bwyta hyd at 500g o gig coch wedi'i goginio bob wythnos fod yn ganolog i ddiet iach a chytbwys. Mae cig coch yn naturiol gyfoethog mewn protein ac mae'r fitaminau a'r mwynau sydd ynddo yn cynnig llawer o fanteision iechyd. Er enghraifft, gall fod yn help i reoli pwysedd gwaed ein cyrff; iechyd llygaid a chroen; iechyd esgyrn; swyddogaeth cyhyrau a nerfau; iechyd atgenhedlol; gwallt ac ewinedd; cludiant ocsigen i'n hatal rhag teimlo'n flinedig; ynghyd â swyddogaeth imiwnedd a swyddogaeth wybyddol. Gall hefyd ein helpu i ganolbwyntio a gall gynnig egni parhaus i ni fwrw ymlaen â'n bywydau bob dydd.
Mae cig coch yn cynnwys y mathau o haearn a sinc sy'n cael eu hamsugno'n well gan ein cyrff na'r rhai a geir mewn unrhyw ffynonellau dietegol eraill. Mae haearn hema o gig coch yn cael ei amsugno 2-6 gwaith yn well na ffynonellau haearn di-hema.
I gefnogi ymgyrch Barbeciw Mawr yr Haf gan DPJ, mae HCC hefyd wedi darparu ysbrydoliaeth ar-lein ar gyfer ryseitiau barbeciw sy’n defnyddio’r gorau o Gig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.
“Mae bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus fel rhan o ddiet iach a chytbwys yn ffordd ragorol o wneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer iechyd da – fel y bwriadwyd gan natur. Felly, os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer y barbeciw, does dim rhaid i chi edrych ymhellach. Rydyn ni wedi rhannu rhai o’n hoff ryseitiau y gallwch eu llwytho i lawr o wefan Sefydliad DPJ – wedi’r cyfan, pa farbeciw gwerth ei halen nad yw’n cynnwys byrgyrs cig eidion neu gig oen Cymru blasus sy’n boeth ac yn hisian?,” ychwanegodd Liz.
Ychwanegodd Kate Miles, Rheolwr Elusen yn Sefydliad DPJ: “Rydym wrth ein bodd yn lansio Barbeciw Mawr DPJ yn ystod yr Wythnos Farbeciw a does yr un barbeciw yn gyflawn heb rywfaint o gig coch. Ein prif nod yn yr ymgyrch hon yw dod â phobl at ei gilydd o amgylch barbeciw i feithrin cysylltiadau a brwydro yn erbyn unigedd. Hefyd, trwy fwyta diet cytbwys ac iach sydd yn llawn maetholion, mae modd hybu iechyd y meddwl a’r corff.
“Gobeithiwn y bydd pobol ledled y wlad yn dod â’u barbeciws allan i dynnu pawb at ei gilydd yr haf hwn er mwyn hybu cysylltiadau a chryfhau iechyd meddwl. I'r rhai a hoffai gymryd rhan, mae rhagor o fanylion ar ein gwefan.”
Gallwch gyrchu gwefan Barbeciw Mawr yr Haf DPJ yma: https://www.thedpjfoundation.co.uk/bigbbq/
Mae rhagor o ryseitiau Barbeciw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar gael fan hyn: https://eatwelshlambandwelshbeef.com/bbq/