Ymchwil
Yng Nghymru, rydym wedi gofalu am y tir a natur ac wedi byw gyda nhw am ganrifoedd lawer. Uchelgais HCC yw tynnu sylw at yr arferion sydd y tu ôl i’n ffermydd defaid a gwartheg llwyddiannus yng Nghymru – ein ‘Ffordd Gymreig’ anarddwys o ffermio – a’u gwneud ar y cyd yn esiampl fyd-eang o sut i gynhyrchu bwyd o safon, yn gynaliadwy ac yn effeithlon.
Wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu na allwn barhau i wella ein system gynhyrchu. Rydym i gyd wedi ymrwymo i wella mwy eto, ac yna dangos yr enillion newydd hyn i’r byd. Yng Nghymru, mae’r hen yn cyd-fynd yn dda â’r newydd.
Er enghraifft, mae HCC wedi cyhoeddi canllaw ymarferol i ffermwyr, sy’n nodi ffyrdd o leihau allyriadau a chynyddu dal a storio carbon – ac ar y tudalennau hyn byddwch yn dysgu am ffyrdd eraill o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch fferm am faterion cynaliadwyedd cyfoes.
Wrth gydweithio gyda phartneriaid o fewn y diwydiant, mae HCC wedi helpu i gefnogi nifer o brosiectau sy’n archwilio mesurau i wella cynaliadwyedd y sector – o werthuso opsiynau ar gyfer lletya anifeiliaid i fesurau gwtogi gwastraff ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.