Mae amaeth yn asgwrn cefn i economi a chymdeithas rhannau helaeth o Gymru. Gwerthuswyd ei werth gan nifer o brosiectau ymchwil, gan gynnwys rhain a gefnogwyd gan HCC.
Arolwg Gwaith
Darganfod y gost o waith di-dâl gan y teulu ar ffermydd gwartheg a defaid
Bob blwyddyn bydd HCC yn cyhoeddi costau cynhyrchu cig oen a chig eidion o fuches sugno. Yn draddodiadol, mae’r ffigurau hyn wedi cynnwys cost gwaith cyflog yn unig, heb unrhyw ystadegau ar gyfer gwaith di-dâl gan y teulu.
Er mwyn ceisio llenwi’r bwlch hwn yn y data, gwnaed arolwg ar y cyd ag EBLEX Cyf a QMS gyda’r bwriad o roi ffigwr ar y gost o waith gan y teulu ar ffermydd cig eidion a defaid.
Diwalliant
DEFNYDDIO PROTEIN CIG I WELLA DIWALLIANT:
EI RAN MEWN RHEOLI PWYSAU’R CORFF
(Medi 2003 – Mehefin 2006)
Nodau
This project aimed to develop a detailed understanding of the relationship between meat protein sources and satiety (the feeling of fullness after eating). Different sources of protein were likely to affect the way people control their food intake and how they regulate their body weight.
Pam mae’n bwysig?
Mae gordewdra yng ngwledydd y Gorllewin ar gynnydd ac mae creu diet yn rhan bwysig o’r ffordd y gellid mynd i’r afael â’r broblem.
Sut fydd y prosiect yn gweithio?
Dewisir gwirfoddolwyr a gofynnir iddyn nhw fwyta prydau a gafodd eu creu’n ofalus ac sy’n seiliedig ar wahanol ffynonellau o brotein fel rhan o arbrawf cytbwys. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cofnodi eu teimladau o ddiwalliant mewn ffordd systematig bob hyn a hyn ar amser a gytunwyd.
Pwy fydd yn gwneud y gwaith?
Mae’r ymchwil yn cael ei wneud gan Brifysgol Brookes Rhydychen.
Noddir y prosiect ar y cyd gan HCC, EBLEX a QMS.