Mae isadeiledd Ymchwil a Datblygu (YaD) yn galluogi sector cig coch Cymru i gael y wybodaeth dechnegol a strategol ddiweddaraf ar gyfer cynhyrchu a thyfu yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae HCC yn ceisio datblygu marchnadoedd proffidiol a chynaliadwy dros y byd i gig coch Cymru er budd yr holl randdeiliaid yn y gadwyn gyflenwi. Cefnogir y gwaith yma gan ddatganiadau sy’n tanategu nodweddion y cynnyrch.
Mae HCC yn cefnogi gwaith ymchwil sydd o fudd i’r diwydiant yn y DG yn gyffredinol, gan gydweithio gyda AHDB (Agriculture and Horticulture Development Board), QMS (Quality Meat Scotland), ac LMC (y Comisiwn Da Byw a Chig ar gyfer Gogledd Iwerddon), Agrisearch a phartneriaid eraill.
Mae strategaeth YaD HCC yn amlinellu’r amcanion ar gyfer Y&D yn y diwydiant cig coch, ac mae’r prif feysydd ymchwil yn cynnwys:
- Rheolaeth pridd a thir glas
- Amgychedd amaethyddiaeth
- Defnydd o wrthfiotigau ac ymwrthedd
- Iechyd a lles anifeiliaid
- Maeth da byw
- Gwelliant geneteg
- Cefnogi arloesedd prosesu, a
- Uniondeb cynnyrch.
I gael rhagor o wybodaeth am Y&D, byddwch cystal â chysylltu â HCC ar 01970 625050 neu anfonwch e-bost at info@hybucig.cymru