Bydd seminar ar-y-cyd a drefnwyd gan Hybu Cig Cymru (HCC) a CFfI Cymru yn trafod dyfodol ffermio ar gyfer y genhedlaeth nesaf yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Dan gadeiryddiaeth Hwylusydd Grŵp Arweinyddiaeth Sioe Frenhinol Cymru a Chynghorydd y Gadwyn Gyflenwi Amaeth, Alison Harvey, bydd y seminar yn clywed lleisiau o bob cwr o’r sector amaethyddol yng Nghymru.
Bydd y rhai a ganlyn yn aelodau o’r panel: Angharad Thomas, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Dominic Hampson Smith, Is-Gadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Teleri Glyn Jones gohebydd gwleidyddol y BBC ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; Cain Owen, Trefnydd Cymdeithas Amaethyddol Môn ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Rachael Madeley-Davies, Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC.
Mae’r seminar yn dechrau am 10am yn adeilad CFfI Cymru ddydd Iau 25 Gorffennaf yn ystod Sioe Frenhinol Cymru. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
Cyn y digwyddiad, dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae amaethyddiaeth Cymru yn mynd trwy gyfnod o newid o ran deddfwriaeth a pholisi ond hefyd o ran tueddiadau defnyddwyr a galw byd-eang. Bydd cynaliadwyedd amgylcheddol yn allweddol wrth symud ymlaen ond mae’n bwysig bod safbwyntiau a phrofiadau pobl ifanc yn cael eu rhannu a’u hystyried. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y seminar hwn a chlywed barn aelodau eraill y panel yn ogystal.”
Ychwanegodd Alison Harvey, sy’n cadeirio’r digwyddiad: “Mae croeso i bawb ymuno â’r seminar hwn lle byddwn yn trafod sut olwg sydd ar ddyfodol ffermio ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Rydym yn edrych ymlaen at glywed amrywiaeth o safbwyntiau a byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn bresennol.”
I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â HCC ar info@hybucig.cymru