Cafodd deg unigolyn o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi cig coch eu henwi fel y rhai cyntaf i gymryd rhan yn y rhaglen newydd ac unigryw, Cig-weithio gan Hybu Cig Cymru (HCC).
Cafodd y rhaglen ei lansio nôl ym mis Mai gan HCC, a’r prif amcanion yw dod ag unigolion angerddol a brwdfrydig ynghyd i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad o gynhyrchu cig coch o’r fferm i’r fforc.
Datblygwyd y rhaglen ar gyfer unigolion rhwng 21-35 mlwydd oed a fyddai’n elwa o gael mentor penodol, y cyfle i weithio fel grŵp ar brosiect ymchwil, a chyfleoedd i wneud cysylltiadau newydd a meithrin perthnasau ar draws y sector.
Yr ymgeiswyr llwyddiannus a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mawrth 23 Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru yw:
- Craig Holly, Pont-y-pŵl - swyddog hyfforddiant cigyddiaeth
- Chloe Mckee, Talgarth - rheolwr amaethyddiaeth a chynaliadwyedd, ffermwr defaid
- Dafydd Walters, Cross Hands – dadansoddwr busnes
- Daniel Owen, Pen-y-bont Fawr - rheolwr datblygu cadwyn gyflenwi cig oen, ffermwr cig eidion a defaid
- Emma Matthews, Y Bont-faen – prynwr da byw, ffermwr defaid a chig eidion
- Gwion Parry, Pwllheli - ffermwr cig eidion a defaid, sganiwr uwchsain am drwch braster a brithder
- Hywel Evans, Caernarfon - prif weithredwr ac ysgrifennydd cwmni arwerthu
- Jane Phillips, Llanfair-ym-Muallt - ffermwr defaid a chynghorydd tir glas
- Louise Lawton, Pontypridd – arbenigwr cig, cownter cigyddiaeth
- Robert Powell, Abertawe - rheolwr gweithrediadau bwyd ffres, ffermwr cig eidion a defaid
Dywedodd Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth am y Farchnad ac Ymchwil a Datblygu yn HCC: “Cawsom ein syfrdanu’n llwyr gan nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd, a hoffem longyfarch y deg aelod a gafodd eu dewis ar gyfer y grŵp.
“Maen nhw’n dod ag ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth o bob rhan o’r gadwyn gyflenwi cig coch gyda nhw ac rydyn ni’n edrych ymlaen at roi llwyfan iddyn nhw er mwyn rhannu eu profiadau â’i gilydd. Gobeithiwn y bydd hyn yn annog cydweithio agos rhwng y gwahanol ddolenni yn y gadwyn gyflenwi ac yn cynyddu dealltwriaeth o strwythur, heriau a chyfleoedd y diwydiant.”
Dywedodd Louise Lawton, aelod o’r grŵp: “Ar ôl tyfu i fyny ar fferm gig eidion a defaid ac yn gweithio bellach yn y diwydiant cigyddiaeth, rwy’n edrych ymlaen at gwrdd ag arweinwyr yn niwydiant cig Cymru, dysgu o’u profiadau, ac adeiladu fy rhwydweithiau fy hun o fewn y diwydiant. Bydd y wybodaeth sydd gan y rhaglen i'w chynnig yn amhrisiadwy. Bydd yn rhoi gwir ymdeimlad i mi o’r rhan rwy’n ei chwarae yn y diwydiant a sut y gallaf drosglwyddo hyn i’n cwsmeriaid.”
Dywedodd yr arwerthwr Hywel Evans: “Bydd y rhaglen yn rhoi cipolwg gwerthfawr i mi ar rannau o’r gadwyn gyflenwi nad wyf wedi’u harchwilio’n fanwl eto. Bydd deall yr agweddau hyn yn caniatáu imi werthfawrogi’r cymhlethdodau sy’n bodoli o ran cynhyrchu, prosesu a dosbarthu cig coch. Bydd y wybodaeth hon yn fy ngalluogi yn fy rôl bresennol i gyfrannu’n fwy effeithiol at drafodaethau a phrosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar y gadwyn gyflenwi gyfan.