Cyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 25 Gorffennaf) mai William Powell o’r Groes (Crossgates), Llandrindod yw enillydd Ysgoloriaeth HCC 2024.
Bydd William, sy’n gweithio ar y fferm deuluol, yn canolbwyntio ei astudiaeth ar y sector buchod sugno ac mae’n bwriadu ymweld ag Unol Daleithiau America.
Mae HCC yn wedi bod yn cynnig yr ysgoloriaeth flynyddol hon am dros ugain mlynedd i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n gweithio’n llawn-amser yn y diwydiant cig coch yng Nghymru. Mae'n caniatáu enillwyr i astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu mewn gwlad o'u dewis. Bu enillwyr diweddar yn edrych ar bynciau megis techno-bori, rheoli cadwraeth a defnyddio moddion lladd llyngyr ar ffermydd defaid ledled y byd.
Dywedodd James Ruggeri, Swyddog Gweithredol Datblygu’r Diwydiant yn HCC, a oedd yn aelod o’r panel cyfweld: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai William yw Ysgolor HCC eleni. Gwnaeth argraff ar y panel gyda’i angerdd am y sector cig coch, a’i awydd i ddysgu mwy. Does gen i ddim amheuaeth y bydd yn llysgennad gwych i’r sector cig eidion yng Nghymru, ar adeg pan fo’r diwydiant dan fygythiad o ganlyniad i reoleiddio newydd, problemau TB parhaus a chamddealltwriaeth ynghylch cynhyrchu cig coch.”
Meddai William Powell: “Ar hyn o bryd y farn yw nad yw buchod sugno yn gynaliadwy nac yn broffidiol. Ond credaf y gallan nhw gael effaith fawr o ran cynnal a gwella’r ucheldiroedd. Os gallem eu gwneud yn fwy effeithlon, a defnyddio genomeg i ddewis buchod amnewid addas, byddai hynny’n helpu'r diwydiant i fod yn fwy proffidiol a chynaliadwy.
“Hoffwn ymweld â Gogledd America lle maen nhw eisoes yn defnyddio genomeg i wella ffrwythlondeb ac i wneud porthiant yn fwy effeithlon.”
Mae dyheadau William ar gyfer y dyfodol yn cynnwys gwneud ei fuches sugno ei hun yn fwy effeithlon. “Rwy’n bwriadu gwneud hynny drwy ddefnyddio’r eneteg orau sydd ar gael ledled y byd i wella effeithlonrwydd porthiant a chynaliadwyedd y busnes. Rwy’n awyddus i ddechrau defnyddio genomeg i helpu i wneud gwell penderfyniadau bridio yn hytrach na dibynnu ar siawns, a gobeithio y bydd fy mhrofiadau yn UDA yn help i mi fynd i’r cyfeiriad cywir,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y profiad ac at roi adroddiad am yr hyn y byddaf yn ei ganfod i grwpiau ffermio yng Nghymru ar ôl i mi ddychwelyd.”