Llongyfarchiadau i aelod o Fwrdd HCC, Emlyn Roberts, a enillodd statws Cydymaith y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (ARAgS ) gan Gyngor Gwobrau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (CARAS) yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
Cyflwynir ARAgS i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau a chyflawniadau nodedig mewn amaethyddiaeth a diwydiannau sy’n gysylltiedig â'r tir.
Mae'r Gwobrau'n cwmpasu nid yn unig ffermio ymarferol a datblygiad arferion hwsmonaeth newydd, ond hefyd ymchwil, technoleg ac economeg.
Emlyn, sy’n Aelod o Fwrdd HCC oddi ar 2021, yw’r bedwaredd genhedlaeth o ffermwyr defaid a chig eidion ar fferm ucheldir draddodiadol ger Dolgellau ym Meirionnydd. Yno, mae wedi cydbwyso cynhyrchiant ac effeithlonrwydd gyda nodau a chyflawniadau amgylcheddol.
Mae Emlyn wedi gwasanaethu ar bwyllgor Ardaloedd Lai Ffafriol NFU Cymru yn ogystal â bod yn gyn-Gadeirydd cangen Meirionnydd. Mae hefyd yn gyfarwyddwr adran ddefaid Sioe Meirionydd ac yn gynrychiolydd Meirionydd ar Fwrdd Gwlân Prydain.
Llongyfarchiadau mawr, Emlyn!