Trafodwyd dyfodol ffermio a’r sector amaethyddol yng Nghymru mewn seminar bywiog a gynhaliwyd ar y cyd gan HCC a CFfI Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru.
Ymunodd Rachael Madeley-Davies o HCC â’r drafodaeth banel a gafodd ei chadeirio gan Ysgolor HCC ac Ymgynghorydd y Cadwyn Gyflenwi Amaeth, Alison Harvey. Roedd y panelwyr eraill yn cynnwys: Angharad Thomas, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Dominic Hampson Smith, Is-Gadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru; Teleri Glyn Jones gohebydd gwleidyddol y BBC ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru; Cain Owen, Swyddog Datblygu Cymdeithas Amaethyddol Môn ac aelod o Bwyllgor Cenhedlaeth Nesaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Cain Owen, Swyddog Datblygu Cymdeithas Amaethyddol Môn ac aelod o Bwyllgor Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Bu’r panel yn ymdrin ag ystod eang o bynciau yn y seminar, gan gynnwys polisi amaeth y presennol a’r dyfodol; rôl cymunedau gwledig yn niwylliant Cymru; pwysigrwydd cydweithio ar draws sectorau; y grefft o geisio a methu, a gweithio gyda chenedlaethau hŷn a dylanwadu arnynt.
Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd HCC, Rachael Madeley Davies, yn ystod trafodaeth y panel: “Rydym mewn sefyllfa dda yng Nghymru i wneud pethau gwych. Rydym yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn yr amgylchedd naturiol. Mae angen i ni fod â meddwl agored, a bod yn gadarnhaol a chefnogol ynghylch y dyfodol.”
Diolch yn fawr iawn i'r holl banelwyr a CFfI Cymru am gynnal y digwyddiad ar y cyd, yn ogystal â phawb a oedd yn gallu ymuno ar y diwrnod.