Adnoddau Ysgoloriaethau a Gyrfaoedd
Mae ystod eang o yfraoedd cyffrous o fewn y diwydiant cig coch. O ffermio i arlwyo, cigydda a choginio, gall y sector bwyd a diod gynnig nifer fawr o gyfleon.
Mae’n rhan o weledigaeth HCC i annog pobl ifanc i weithio ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi a gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau fod gan y sector y sgiliau angenrheidiol.
Yn yr adran hon gallwch wylio fideos sy’n dangos y llwybrau gyrfa sydd ar gael o fewn ein diwydiant; gallwch weld sut i gymryd rhan mewn hyfforddiant arbenigol gan HCC sy’n dod â ffermwyr a phroseswyr ynghyd i ddeall sut i ddethol stoc er mwyn cwrdd â gofynion y farchnad; a rhoi cynnig am wobrau ariannol fel Ysgoloriaeth HCC sy’n caniatau i chi deithio dramor i ddysgu mwy am y diwydiant.