Mae hwb allforio, gwasgfa o ran cyflenwad a galw cadarn gan ddefnyddwyr wedi helpu i wrthsefyll cynnydd mewn mewnforion cig eidion, yn ôl adroddiad dadansoddol am Hybu Cig Cymru (HCC).
“Rydym yn gweld cyfuniad cymhleth o ffactorau yn dylanwadu ar y farchnad gig eidion yn ystod pum mis cyntaf eleni,” meddai Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth am y Farchnad ac Ymchwil a Datblygu HCC. “Mae cyflenwad ar draws Ewrop yn dal yn dynn; mae mewnforion cig eidion wedi cynyddu ac mae cynhyrchiant y DG ar i fyny, sy’n golygu bod mwy o gynnyrch ar gael i’w allforio.
“Mewn gwirionedd, cododd allforion cig eidion Prydain Fawr bron i 11 y cant, o 41,900 tunnell yn 2023 i 46,300 tunnell yn 2024, gydag allforion mis Mai i fyny ugain y cant o’u cymharu â ffigurau’r flwyddyn flaenorol,” meddai Elizabeth.
Dywedodd fod positifrwydd cadarn y defnyddwyr, ynghyd â chyfyngiadau ar gyflenwad, yn debygol o barhau i helpu prisiau. “Iwerddon yw ein partner mwyaf o ran masnachu cig eidion. Aeth tua 30 y cant o’r holl allforion i Iwerddon ond, o’r 99,900 tunnell o gig eidion a fewnforiwyd, daeth 77 y cant o Iwerddon, sy’n golygu cynnydd o 18 y cant mewn cynnyrch Gwyddelig o’r naill flwyddyn i’r llall yn ystod pum mis cyntaf 2024.
Dywedodd Elizabeth fod prisiau pwysau marw bustych ym Mhrydain wedi gwella o'r naill wythnos i'r llall drwy gydol mis Gorffennaf ond gostyngodd prisiau cig eidion Iwerddon; o ganlyniad, roedd y bwlch cynyddol rhwng prisiau pwysau marw bustych ym Mhrydain ac Iwerddon yn gwneud cig eidion Iwerddon yn fwy cystadleuol o ran pris yn y DG.
Dywedodd fod data defnyddwyr yn dangos galw cryf am gig eidion a dywedodd yr arbenigwyr Kantar fod tri y cant yn fwy o gig eidion wedi ei werthu yn y siopau na’r llynedd (yn ystod y 12 wythnos tan 7 Gorffennaf).
“Mae hyn yn tanlinellu sut mae ymdrechion marchnata HCC yn parhau i ddwyn ffrwyth gartref a thramor. Er enghraifft, gwelodd yr ymgyrch ddomestig ‘Unigryw i Gymru, Naturiol a Lleol’ ymwybyddiaeth o Gig Eidion Cymru yn cynyddu 15 y cant i 80 y cant a chafwyd cynnydd o 21 y cant yn y duedd i brynu.
Er bod mewnforion o Iwerddon i Brydain yn cael eu hatgyfnerthu ar hyn o bryd gan gynnydd yn y galw gan fânwerthwyr, efallai na fydd hyn yn parhau llawer yn hirach oherwydd mae disgwyl y bydd llai o gig ar gael. “Mae ystadegau’n awgrymu y bydd llai o wartheg o oedran lladd ar gael yn Iwerddon tua diwedd 2024 ac i mewn i 2025,” meddai Elisabeth.
“Gallai hyn ddylanwadu ar y pris ac argaeledd ar gyfer allforio. Yn yr hirdymor, rhagwelir y gallai nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd yn Iwerddon ostwng 30-40,000 (-2%) yn 2024, gan ddechrau dylanwadu ar y farchnad tua diwedd 2024 ac i mewn i 2025.
“Mae’r sefyllfa ynghylch cyflenwad yn Iwerddon, ynghyd â’r disgwyl y bydd llai o gyflenwad yn yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Gyfunol a galw da gan ddefnyddwyr, yn awgrymu amodau ffafriol i brisiau gwartheg yn yr hirdymor,” meddai.