Mae Hybu Cig Cymru, y corff sy’n hyrwyddo cig coch o Gymru,, wedi lansio cylchlythyr Cy-mww-ned Cig Eidion Cymru, sef cyhoeddiad newydd yn seiliedig ar ryseitiau sydd yn hyrwyddo Cig Eidion Cymru PGI i deuluoedd a siopwyr ledled Cymru.
Mae Cy-mww-ned Cig Eidion Cymru yn e-bost dwyieithog sydd yn llawn o ryseitiau danteithiol diweddaraf HCC, ynghyd â gwybodaeth am ffermwyr Cymru, sut mae Cig Eidion Cymru yn cael ei gynhyrchu a’r buddion maethol pan fo’r diet yn cynnwys Cig Eidion Cymru.
Hefyd, mae cyfle i ennill pwll tân a rac gril barbeciw, sydd wedi'u gwneud â llaw yng Nghymru ac sy'n werth dros £500, os ydych yn cofrestru ar gyfer y cylchlythyr cyn dydd Sul 15 Medi.
Dywedodd Uwch Swyddog Marchnata Digidol HCC, Liz Hunter: “Bydd Cy-mww-ned Cig Eidion Cymru yn darparu’r ysbrydoliaeth amser-bwyd perffaith drwy ddefnyddio Cig Eidion Cymru blasus, sy’n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr Cymru – yr arbenigwyr yn eu maes. Os ydych chi’n chwilio am swper cyflym ar ôl ysgol, prydau blasus ar gyfer ciniawau neu wleddoedd i’r teulu, fe gewch chi’r cyfan a mwy wrth ymuno â Chy-mww-ned Cig Eidion Cymru.”
Ychwanegodd Liz: “Os cofrestrwch chi heddiw i gael cyfle i ennill ein gwobr pwll tân, chi fydd y cyntaf i dderbyn y newyddion, gwybodaeth a ryseitiau diweddaraf ar gyfer Cig Eidion Cymru PGI.”
Gallwch gofrestru i gael y cylchlythyr yn: https://eatwelshlambandwelshbeef.com/join-the-family/