Bydd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI i’w gweld yn SIAL Paris, ffair fasnach bwyd a diod fwyaf y byd, yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn arddangos ac yn hyrwyddo’r brandiau cig coch o Gymru sydd ag enw da yn fyd-eang – Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI – gyda chymorth nifer o allforwyr cig coch o Gymru.
Yn y ffair, bydd HCC yn cwrdd â phrynwyr a phobl sydd â chysylltiadau â’r diwydiant yn fyd-eang, yn ogystal â chynnig samplau o gig a darparu arddangosiadau coginio.
Mae SIAL, sydd yn cael ei chynnal rhwng 19 a 23 Hydref yn ddigwyddiad allweddol ar gyfer brandiau bwyd a diod ledled y byd. Bydd dros 400,000 o gynhyrchion yn ceisio denu sylw prynwyr, newyddiadurwyr a llunwyr polisi o bob rhan o'r byd. Eleni yw 60 mlwyddiant y ffair.
Bydd HCC hefyd yn cynnal derbyniad lle bydd y Cadeirydd, Catherine Smith, yn annerch cynulleidfa ddethol o brynwyr, newyddiadurwyr a llunwyr polisi yn y diwydiant cig. Yn ogystal, bydd Rheolwr Cysylltiadau Allanol a Masnach Llywodraeth Cymru, Elizabeth Nixley, yn rhoi anerchiad a bydd Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, Elwen Roberts, yn darparu canapes amrywiol a fydd yn cynnwys Cig Oen Cymru PGI, Cig Eidion Cymru PGI, a chynhyrchion a chynhwysion bwydydd eraill o Gymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â HCC ar eu stondin yn SIAL i hyrwyddo diwydiant bwyd a diod ehangach Cymru, yn ogystal â chonfensiwn rhyngwladol Blas Cymru | Confensiwn Blas Cymru a gynhelir yng Nghasnewydd ym mis Hydref 2025.
Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae marchnadoedd allforio yn hanfodol bwysig i sector cig coch Cymru er mwyn cynnal y prisiau i’r ffermwyr a sicrhau llwyddiant hirdymor i’r gadwyn gyflenwi. Yn SIAL byddwn yn cyfarfod â chwsmeriaid cyfredol yn ogystal â meithrin cysylltiadau newydd â phrynwyr a mewnforwyr o bob rhan o’r sector bwyd a diod byd-eang.”
Dywedodd Swyddog Gweithredol Digwyddiadau HCC, Medi Jones-Jackson: “Mae SIAL yn cael ei hystyried yn brif sioe fasnach bwyd a diod y byd ac rydym yn falch o fod yn cynrychioli brandiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn y ffair a’u hyrwyddo fel cynnyrch cig coch cynaliadwy o ansawdd uchel yn y farchnad fyd-eang.”