Ar drothwy Wythnos Ymwybyddiaeth Haearn y Byd, sy’n dechrau ddydd Llun 14 Hydref, mae’r corff sy’n hybu cig coch o Gymru, Hybu Cig Cymru (HCC), wedi cydweithio ag athletwraig flaenllaw o Gymru, Adelé Nicoll, i bwysleisio pwysigrwydd haearn yn y diet a thynnu sylw at Gig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI fel ffynonellau hollbwysig o haearn a fitaminau a mwynau eraill.
Bydd Adelé yn cwblhau’r Her (Dyn)es Haearn yn ystod yr wythnos, pan fydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd haearn yn y diet yn ogystal â buddion maethol ac amlbwrpasedd cyffredinol cig coch Cymru.
Gan efelychu cystadleuaeth eiconig Ironman, bydd Adelé yn cwblhau ei chyfres ei hun o gyflawniadau trwy goginio tri phryd maethlon sy’n seiliedig ar doriad penodol o Gig Oen Cymru. Bydd yn defnyddio stêcs coes Cig Oen Cymru i greu tri phryd cyflym a maethlon: Cyrri Cig Oen Cymru a thatws melys; ramen Cig Oen Cymru a faijitas Cig Oen Cymru. Bydd hi'n postio fideos o’r ryseitiau ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol i'w 58,000 o ddilynwyr lle cafodd ei fideos diweddaraf eu gwylio hyd at 17 miliwn o weithiau.
Mae data’n dangos bod 76% o fenywod 19-64 oed yn defnyddio llai o haearn na’r hyn a argymhellir yn ddyddiol a bod 25% yn dioddef oherwydd cymeriant haearn isel. Gall lefelau isel o haearn gael effaith sylweddol ar eich bywyd bob dydd – o deimlo’n flinedig i ddiffyg egni a dycnwch. Mae haearn yn fwyn sydd ei angen ar y corff am sawl rheswm, gan gynnwys creu celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch y corff ac yn helpu i gynnal system imiwnedd iach.
Mae cig coch o Gymru megis Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, yn gyfoethog mewn protein naturiol ac yn llawn maetholion gan gynnwys fitaminau A a B2, ïodin, magnesiwm, sinc, potasiwm ac, wrth gwrs, haearn.
Athletwraig o Gymru yw Adelé, sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau bobsledio a thaflu’r pwysau ac sy’n awyddus i addysgu merched eraill a phobl ifanc am bwysigrwydd diet iach a chytbwys. Yn wreiddiol o’r Trallwng yng nghanolbarth Cymru, mae’n anelu at fod yr athletwraig gyntaf o Brydain i ennill medal yng ngemau Olympaidd yr haf a’r gaeaf.
Wrth sôn am bwysigrwydd diet a maeth cytbwys, dywedodd Adelé:
“Mae’n bryderus iawn gweld nad yw menywod yn cael digon o haearn o’u diet o hyd ac mae data’n dangos bod dros dri chwarter y menywod 19-64 oed yn cael llai o haearn na’r hyn a argymhellir yn ddyddiol a bod 25% yn dioddef oherwydd cymeriant haearn isel.
“Mae’r haearn sydd ei angen ar fenyw yn sylweddol uwch nag ar gyfer dyn, gan gynyddu ymhellach yn ystod mislif a beichiogrwydd. Fodd bynnag, nid yw llawer o fenywod yn sylweddoli bod sawl ffordd hawdd o wneud yn siŵr eu bod yn cael y maint cywir.
“Ffordd wych o godi lefelau haearn yw rhoi blaenoriaeth i fwydydd â llawer o haearn. Ystyriwch fwyta mwy o ffynonellau haearn sy'n seiliedig ar anifeiliaid, fel cig coch, ynghyd â phlanhigion fel llysiau gwyrdd deiliog, ffa a chnau. Mae cig coch yn cynnwys haearn hema, sy'n golygu ei bod yn haws i'r corff ei amsugno a bydd yr haearn yn y cig yn helpu i amsugno'r haearn di-hema o'r planhigion. Mae haearn yn fwyn mor bwysig ac mae’n rhan allweddol o ddiet iach a chytbwys.”
Ychwanegodd Adelé:
“Am imi gael fy magu yng nghefn gwlad canolbarth Cymru, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae Cig Oen Cymru yn dod o ŵyn sy’n cael eu magu’n gynaliadwy mewn tirweddau unigryw sydd heb eu cyffwrdd. Mae Cig Oen Cymru premiwm yn dod o ŵyn sy’n cael eu magu gan ddefnyddio technegau ffermio traddodiadol, sy’n sicrhau’r safonau uchaf posibl o’r fferm i’r fforc, a dyna pam rwy’n frwd dros gefnogi cynnyrch lleol.”
Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill:
“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag Adelé i dynnu sylw at bwysigrwydd haearn yn y diet ac, yn benodol, at sut y gall cig coch Cymru chwarae rhan allweddol wrth greu diet iach a chytbwys. Fel athletwr rhyngwladol, mae Adelé yn credu’n gryf mewn dietau iach a ffyrdd iach o fyw ac mae’n gosod esiampl wych – yn arbennig i ferched ifanc sydd angen mwy o haearn yn eu bwyd. Rydym yn falch dros ben ei bod wedi gallu gweithio gyda ni ar yr ymgyrch bwysig hon.”