Mae llawer iawn o bobl sy’n hoffi Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cadw at eu hoff doriadau o gig er gwaethaf y wasgfa ariannol, yn ôl Kantar, yr ymchwilwyr i arferion defnyddwyr.
Dywedodd Avneet Chana, Cyfarwyddwr Mewnwelediad Strategol Kantar, wrth gynhadledd Hybu Cig Cymru (HCC) ym mis Tachwedd 2023 fod tua 97 y cant o’r holl aelwydydd yn dal i brynu cig coch er gwaethaf y pwysau ar gyllid y teulu.
Ychwanegodd Ms Chana, Pennaeth tîm Cig, Pysgod a Dofednod Kantar, fod bron i 85 y cant o’r holl gig coch yn cael ei fwyta “er mwynhad” ac mai dyma’r ysgogiad y tu ôl i werthiant parhaus ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo’r pwysau economaidd. “Un peth rydyn ni’n sylwi ym mhob ymchwil a wnawn yw ein bod ni’n gwneud pethau oherwydd ein bod yn eu mwynhau – fyddwn ni ddim yn bwyta rhywbeth os nad ydyn ni’n hoffi ei flas – ac mae hynny’n arbennig o wir am gig coch.
Dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup, fod hyn yn cymeradwyo gwaith caled ffermwyr Cymru. Roedd hefyd yn cadarnhau canfyddiadau treialon blasu i ddefnyddwyr a drefnwyd gan Raglen Datblygu Cig Coch HCC ac yn dilysu’r gwaith helaeth a wnaed ar frandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.
“Yn ein profion blasu, roedd bron i 2,000 o ddefnyddwyr wedi cymeradwyo breuder, suddlonder, blas ac arogl Cig Oen Cymru ac mae canfyddiadau’r arolwg hwn yn dangos bod miloedd yn cytuno â nhw,” meddai Ms Pickup.
Mae arolwg parhaus Kantar yn cynnwys tua 30,000 o gartrefi yn y DG sydd â defnyddwyr sy’n gynrychioliadol yn ddemograffig o ran oedran, ffordd o fyw a rhanbarth.
“Mae ein harolwg parhaus yn dangos mai dim ond tua 28,000 o gartrefi yn y DG roddodd y gorau i brynu cig coch yn 2023 – ac mae hynny’n ostyngiad bychan iawn pan ystyriwn fod dros 60 miliwn o bobl yn byw yn y DG,” meddai Ms Chana.
Ychwanegodd fod pris cig coch wedi cynyddu 11.5 y cant yn 2023 a gwelwyd hefyd gynnydd o 8.9 y cant mewn gwariant; fodd bynnag, cafwyd gostyngiad o 2.4 y cant mewn cyfaint. Dywedodd fod rhai categorïau o gig coch yn cynyddu o ran gwerthiant, gan gynnwys asennau porc (i fyny 9.5 y cant), briwgig (i fyny 3.1 y cant) a selsig (i fyny 2.2 y cant).
“I roi’r cynnydd mewn prisiau yn ei gyd-destun, gadewch i ni ei gymharu â chynnyrch llaeth, er enghraifft, lle gwelwyd cynnydd o 20.8 y cant - a chynnyrch ffres a welodd gynnydd o 8.5 y cant,” meddai.
Yn ôl Ms Chana, roedd yn galonogol bod chwyddiant prisiau yn gostwng erbyn hyn. Mae ein harolwg yn rhoi darlun o’r hyn y mae pobl yn ei wneud, eu tueddiadau siopa, eu barn am yr economi ac yn dangos a oedden nhw’n cael trafferth, yn ymdopi neu’n gyfforddus.
“Roedd nifer gynyddol yn dweud eu bod yn cael trafferth a llai yn teimlo eu bod yn gyfforddus – ac yn naturiol roedd hynny’n cael effaith ar eu hymddygiad; gwelsom newid a phobl yn dechrau gwario llai ar draws y farchnad.
“Fodd bynnag, mae rhywfaint o dystiolaeth bellach bod yr ymddygiad hwnnw’n dechrau arafu ychydig. Am y tro cyntaf mewn blwyddyn, mae chwyddiant yn gostwng ac mae hynny'n arwyddocaol," meddai.