Wrth i ni baratoi ar gyfer digwyddiadau fel Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) a Sul y Mamau (10 Mawrth), mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio casgliad o ryseitiau i gyd-fynd â’i ymgyrch i ymgysylltu â defnyddwyr – Pa mor bell yw'ch fforc o'n porc?
Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth o argaeledd, manteision ac atyniad Porc Blasus i gynulleidfa o ddefnyddwyr yng Nghymru.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a Sul y Mamau yn gyfleoedd gwych i ddathlu’r menywod anhygoel yn ein bywydau ac mae’r ymgyrch yn cynnwys ryseitiau sy’n tynnu dŵr i’r dannedd ac sy’n defnyddio’r cynhwysion gorau, gan gynnwys lwyn porc rhost a bol porc wedi’i rostio’n araf.
Mae’n atgoffa’r sawl sy’n dewis Porc Blasus eu bod nid yn unig yn rhoi pryd sbesial i’w hanwyliaid, ond hefyd yn cefnogi’r ffermwyr a’r busnesau lleol sy’n cynhyrchu ein porc.”
Mae Porc Blasus yn dod o ffermydd bach, lle mae moch yn cael eu magu dan amodau naturiol ac yn cael eu bwydo ar ddiet cytbwys.
Drwy gydol yr ymgyrch, mae HCC yn helpu pobl i ddod o hyd i’w porc yn lleol, lle bynnag y maen nhw’n byw yng Nghymru.