Mae’r dystiolaeth gynnar eleni yn dangos bod prisiau ŵyn pwysau marw yn parhau’n gryf a hyd yn oed wedi bod yn well nag erioed ym mis Chwefror – tra bod y galw am gig oen yn ddiweddar yn gyson er gwaethaf y pwysau ar wariant oherwydd costau byw.
Caiff y newyddion cadarnhaol yma o’r farchnad gartref ei adlewyrchu yn adroddiad arbenigol diweddaraf Hybu Cig Cymru (HCC), sef Cyflenwad Cig Oen: Y Diweddaraf a’r Rhagolygon – sydd hefyd yn nodi’r pwysau allanol heriol y mae cynhyrchwyr cig oen ledled Cymru yn parhau i wynebu, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, costau mewnbwn uwch ar y fferm, newidiadau i gynlluniau cymorth amaethyddol, a chlefydau da byw.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cyflenwad presennol o gig defaid ar farchnad y DG ac mae’n awgrymu beth fydd y cyflenwad yn y dyfodol a'r ffactorau allanol sy'n dylanwadu ar y gadwyn gyflenwi. Mae Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC, yn nodi bod arolwg blynyddol mis Mehefin diweddaraf Defra wedi dangos gostyngiad sylweddol ym maint y ddiadell yng Nghymru.
“Mae’r ystadegau ar gyfer Cymru yn awgrymu bod cyfanswm y defaid ac ŵyn ar ffermydd Cymru ar 1 Mehefin 2023 yn 8.7 miliwn o anifeiliaid, sef tua saith y cant yn is nag ym mis Mehefin 2022.”
Roedd yr ystadegau hefyd yn dangos bod llai o ŵyn. “Roedd nifer yr ŵyn ar ffermydd y DG ar 1 Mehefin 2023 yn 15.5 miliwn, sef chwech y cant yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol,” meddai.
“Gan fod cyfanswm y trwybwn presennol o ŵyn hyd at Ragfyr 2023 yn fwy na’r hyn a ddisgwylid o ystyried faint o ŵyn gafodd eu geni, gallai hynny olygu y bydd y farchnad yn debygol o weld llai o gyflenwad yn ystod misoedd cyntaf 2024,” meddai Glesni.
Roedd nifer yr ŵyn yn llai eleni oherwydd bod cyfnodau sych wedi cael effaith ar y cyfraddau sganio. Yn 2024-2025, disgwyliwn i’r cyfraddau sganio fod yn uwch ond rhagwelir y bydd nifer yr ŵyn yn llai oherwydd bod maint y ddiadell yn llai.”
Mae’r adroddiad yn adlewyrchu bod y galw am gig oen yn ystod 2023 yn gyffredinol wedi bod yn dda er gwaethaf y pwysau parhaus yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi gan Kantar, ymchwilwyr ar ran y defnyddwyr, yn awgrymu bod bron i 45 y cant o gartrefi Prydain wedi prynu cig oen ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn, sy’n golygu cynnydd o dri y cant o ran cyfaint. Roedd y galw hefyd yn gryf ar y farchnad gartref yn ystod y Nadolig, am fod cig oen wedi gwerthu’n dda yn y siopau ym Mhrydain. Byddai'r cynnydd mewn masnach, a'r galw cryf gan ddefnyddwyr, wedi bod o gymorth i'r sector yn ystod y flwyddyn.
“Eleni, mae’r ŵyl Islamaidd – Ramadan – a’r Pasg yn digwydd yn ystod mis Mawrth. O edrych ar faint o ŵyn sydd ar y ffermydd o hyd, mae’n debygol y bydd y cyflenwad cyn y dyddiadau allweddol hyn yn dynn,” meddai Glesni.
Gan edrych ar brisiau pwysau marw, mae’r adroddiad yn cadarnhau bod y pris pwysau marw cyfartalog ar gyfer ŵyn wedi para’n gryf yn ystod 2023, gan gyrraedd uchafbwynt o £7.42/kg ym mis Mai, sef rhyw 23 y cant yn uwch nag yn y flwyddyn flaenorol. “Hyd yma eleni, mae’r pris pwysau marw wedi bod yn well o lawer nag yn y blynyddoedd blaenorol. Dyma’r tro cyntaf i brisiau ŵyn pwysau marw fynd dros £6/kg yn ystod wythnosau cyntaf mis Chwefror,” meddai Glesni.
“Mae niferoedd yr ŵyn sy’n dod ar y farchnad bob wythnos hyd yn hyn eleni wedi bod yn is nag yn yr wythnosau cyfatebol yn 2023 – cyfanswm o bron i 221,600 o ŵyn, sef, rhyw wyth y cant yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol. Rhagwelwyd y tyndra hwn yn y cyflenwad ŵyn ac mae’n debygol o fod yn gymorth i’r cyfartaledd pwysau marw. Mae’r prisiau pwysau byw cyfartalog a’r prisiau cyfartalog yn y siopau hefyd yn gryf ar hyn o bryd.
Mae’n bosibl y bydd effeithiau’r mewnforion o Awstralia, sy’n cynyddu yn dilyn y Cytundeb Masnach Rydd a ddechreuodd ddiwedd mis Mai 2023 a’r newidiadau a ragwelir yn y dirwedd wleidyddol, yng Nghymru yn arbennig, yn ddylanwadol yn ystod y misoedd nesaf.
Mae’r adroddiad - Cyflenwad Cig Oen: Y Diweddaraf a’r Rhagolygon – ar gael yma: https://meatpromotion.wales/cy/newyddion-a-diwydiant/dadansoddir-farchnad