Mae’r corff sy’n hyrwyddo cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), yn mynd â Chig Oen Cymru PGI i farchnad broffidiol y Dwyrain Canol lle bydd yn arddangos mewn sioe fasnach flaenllaw ac yn cynnal dathliad arbennig yn llysgenhadaeth Prydain yn Dubai.
Bydd allforwyr o Gymru yn ymuno â thîm masnach HCC i arddangos Cig Oen Cymru yn Gulfood, a gynhelir rhwng 19-23 Chwefror yng Nghanolfan Masnach y Byd, Dubai.
Mae marchnad y Dwyrain Canol yn farchnad allforio bwysig sy’n tyfu ar gyfer cig coch Cymru – gydag allforion o Gig Oen Cymru yn cynyddu mewn blynyddodd diwethaf.
Dywedodd Swyddog Datblygu'r Farchnad yn HCC, Gareth Evans: “Mae Gulfood yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr bwyd a diod byd-eang. Bydd prynwyr o dros 120 o wledydd yn bresennol ac mae’n gyfle gwych i ddatblygu enw da Cig Oen Cymru ac i gysylltu â chwsmeriaid newydd ar draws y rhanbarth.”
Yn ogystal â mynychu’r sioe fasnach, mae HCC wedi trefnu digwyddiad ‘Dathlu Cig Oen Cymru’ yn llysgenhadaeth Prydain yn Dubai. Bydd Comisiynydd Masnach a Chonswl Cyffredinol Ei Fawrhydi, Oliver Christian, yn bresennol yn y digwyddiad, ynghyd â phobl ddylanwadol y sector lletygarwch ac arlwyo o Dubai a’r Dwyrain Canol.
Cafodd bwydlen tri-chwrs ‘Dathlu Cig Oen Cymru’ ei chreu gan gogydd gweithredol blaenllaw o Dubai, Russell Impiazzi, ac mae’n cynnwys Ysgwydd Cig Oen Cymru PGI Olosgedig a Lwyn Cig Oen Cymru PGI wedi’i Rhostio gyda Pherlysiau. Mae’r fwydlen hefyd yn cynnwys detholiad o gynnyrch bwyd a diod Cymreig adnabyddus arall – gan gynnwys Dŵr Tŷ Nant, Halen Môn, Caws Eryri, a Chwisgi Penderyn.
Yn ogystal, bydd cyfle i glywed anerchiad gan gynrychiolydd o HCC yn egluro tarddiad a hanes Cig Oen Cymru, a sut mae’n hyrwyddo dulliau ffermio cynaliadwy Cymru.
Esboniodd Swyddog Digwyddiadau HCC, Medi Jones-Jackson: “Bydd y digwyddiad Llysgenhadaeth hwn yn galluogi HCC i gysylltu â phrynwyr allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar draws y rhanbarth a rhoi gwir flas iddyn nhw o’r hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru PGI mor sbesial.”