Amdanom Ni
Hybu Cig Cymru yw’r sefydliad sy’n cael ei arwain gan y diwydiant sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru.
Datblygiadau’r diwydiant
Mae HCC yn anelu at wella ansawdd, cynyddu cost-effeithiolrwydd ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion cig coch ar draws yr holl gadwyn gyflenwi yng Nghymru. Gwneir hyn trwy ddarparu gwybodaeth yn ogystal â chynyddu, hyrwyddo ac ymgynefino â’r defnydd o dechnoleg oddi mewn i’r diwydiant.
Datblygiadau’r farchnad
Mae HCC yn gweithredu mewn llawer o farchnadoedd pwysig yn Ewrop, gan ddatblygu a chryfhau cyfleoedd busnes i allforwyr cig coch o Gymru.
Gartref, mae HCC yn gweithio gyda mân-werthwyr a gweithredwyr gwasanaethau bwyd, gan gynnal rhaglenni hyrwyddo rheolaidd ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).
Cyfathrebu ar draws y sector
Rhan o waith HCC yw gwneud yn siwr fod rhanddeiliaid a defnyddwyr yn cael gwybod am ddatblygiadau sy’n ymwneud â chig coch Cymru.