Mae HCC ynghlwm ag ymchwil arloesol sydd o fudd i’r diwydiant amaeth a chynhyrchu cig yng Nghymru.
Mae’n portffolio presennol yn cynnwys prosiectau ar reoli tir glas, iechyd anifeiliaid a geneteg.
Mae HCC hefyd yn cefnogi ysgoloriaethau ôl-raddedig sy’n gysylltiedig â phrosiectau ymchwil o fewn y diwydiant.
Prosiectau a'n rhaglenni
Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneudYn 2018, dyfarnwyd cyllid i HCC am fenter strategol 5-mlynedd –Rhaglen Datblygu Cig Coch
Mae’r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn anelu at sichrau fod y sector cig coch yn barod at y dyfodol; gan hybu effeithlonrwydd, proffidioldeb a chynaliadwyedd drwy’r gadwyn gyflenwi, a sichrau cynnyrch o safon uchel y medrir ei olrhain, fydd yn apelio at gwsmeriaid y dyfodol.
Bydd yn cynnwys tri phrosiect pwysig: Stoc+, Cynllun Hyrddod Mynydd ac Ansawdd Cig Oen Cymru fydd yn canolbwyntio ar iechyd anifeiliaid, geneteg ac ansawdd bwyta cig.
Prosiectau Rhaglen Datblygu Cig Coch
Rhaglen Datblygu Cig CochStoc+
Gweithio gyda ffermwyr a milfeddygon i hybu rheolaeth iechyd praidd a buches ragweithiol, i helpu Cymru i arwain y byd mewn lles anifeiliaid, cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.
Cynllun Hyrddod Mynydd
Buddsoddi mewn amaeth ucheldir Cymru a’r economi wledig sy’n ddibynnol arni trwy ddefnyddio’r dechnoleg bridio diweddaraf a recordio perfformiad yn y sector fynydd Gymreig.