Sut gall systemau adnabod EID eich helpu i wella perfformiad eich praidd
Cyflwyniad i ddefnyddio systemau adnabod EID ar eich fferm.
Mae gwybodaeth ar gael hefyd yn y llyfryn hwn, Cyflwyno Cofnodi EID – Canllaw ymarferol i ddechrau cofnodi EID ar gyfer eich diadell.
Mae systemau adnabod anifeiliaid yn electronig (EID) yn cynnig llawer o fuddion i unrhyw un sy’n ymwneud â thrin defaid, yn enwedig ar ffermydd lle y gall arferion rheoli gael eu gwella’n sylweddol trwy ddefnyddio systemau EID.
Sut mae EID yn gweithio.
Mae EID yn defnyddio microsglodyn, neu drawsatebwr electronig, sydd wedi’i osod mewn tag, bolws neu fewnblaniad i adnabod anifail fferm. Mae EID mewn anifeiliaid wedi’i seilio ar donnau radio amledd isel neu Adnabod Amledd Radio (RFID). Mae darllenydd yn anfon signal radio sy’n cael ei dderbyn gan y microsglodyn. Mae’r sglodyn yn anfon rhif adnabod unigryw’r anifail yn ôl. Yna, mae’r darllenydd yn trosglwyddo’r rhif unigryw i gyfrifiadur sy’n ei ddefnyddio i storio pa wybodaeth bynnag sydd ei hangen am yr anifail hwnnw.
Mae adnabod EID yn gofyn am fuddsoddiad cychwynnol mewn technoleg ar y fferm. Mewn sefyllfaoedd sylfaenol iawn, mae hyn yn golygu prynu offer a fydd yn darllen y tagiau EID, a bod â mynediad at gyfrifiadur sydd â meddalwedd rheoli fferm syml wedi’i gosod arno. Yna, bydd y feddalwedd hon yn rheoli’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu.
Mae cyfrifiaduron ar y rhan fwyaf o ffermydd erbyn hyn. Mae’r math o offer EID sydd ar gael yn amrywio o ddarllenwyr ffon syml iawn i ddarllenwyr llaw a chofnodwyr data, peiriannau pwyso electronig a systemau cytio awtomatig. Bydd yr offer a ddewiswch yn dibynnu ar eich sefyllfa ffermio eich hun a’r math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y praidd
I gael y budd mwyaf, byddai system adnabod EID yn cael ei defnyddio ar y cyd â stoc sydd â gwerthoedd bridio amcangyfrifedig, fel y gellir asesu perfformiad pob anifail yn y praidd.
Mewn unrhyw braidd, gall EID helpu i gynyddu enillion trwy, er enghraifft, reoli a dethol ŵyn yn well ac yn fwy effeithlon. Gall buddsoddi mewn meddalwedd ac offer priodol gynorthwyo ffermwyr i ddewis ac asesu pa ŵyn sy’n perfformio orau o dan wahanol systemau rheoli.
Gellir hwyluso’r broses o wirio pwysau targed pob oen hefyd, gan olygu y gellir dewis ŵyn sy’n gweddu i fanyleb proseswyr. Gall perfformiad ŵyn gael ei olrhain i famogiaid hefyd, i gynorthwyo â rhaglenni bridio ac amlygu’r stoc fwyaf cynhyrchiol.
Yn ogystal, gall EID fod yn fuddiol iawn wrth reoli cynlluniau iechyd y praidd, gan ddarparu hanes iechyd sydd ar gael yn rhwydd ar gyfer defaid unigol. Gall hyn gynnwys:
- Cofnodi tasgau arferol fel drensio a brechu yn ôl defaid unigol neu grwpiau wrth iddynt gael eu cynnal.
- Cofnodi a rheoli cyfnodau diddyfnu ar gyfer unrhyw feddyginiaeth a roddir, a chofnodi triniaeth ar gyfer defaid unigol sy’n darparu hanes iechyd sydd ar gael yn rhwydd.
- Defnyddio cofnodion triniaeth a rhesymau dros driniaeth i nodi problemau a dechrau eu datrys yn gynnar, ac amlygu unrhyw faterion iechyd parhaus neu ailadroddus o fewn defaid unigol.
Mae EID yn cynnig llawer o gyfleoedd. Yr hyn sy’n allweddol er mwyn ei ddefnyddio’n effeithiol yw peidio â’i wneud yn rhy gymhleth a defnyddio’r dechnoleg i’r lefel lle y gallwch weld budd ac elw, y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen at ddibenion adnabod syml.
Cwestiynau cyffredin
Offeryn yw dyfais adnabod electronig sy’n caniatáu i geidwaid gofnodi gwybodaeth am anifeiliaid unigol yn gyflymach ac yn haws, yn enwedig pan gaiff nifer fawr o anifeiliaid eu symud yn gyflym.
Mae microsglodyn wedi’i osod yn y ddyfais adnabod electronig sy’n cynnwys rhif unigol yr anifail. Gall y ddyfais adnabod electronig fod yn dag clust neu’n folws (dyfais adnabod mewn cynhwysydd sy’n cael ei lyncu ac sy’n aros yn stumog yr anifail).
Gall y rhif yn y microsglodyn sydd yn y ddyfais adnabod gael ei ddarllen gan ddefnyddio darllenydd electronig. Mae gwahanol fathau ar gael, yn amrywio o ddarllenwyr ffon syml sy’n casglu gwybodaeth sylfaenol am rifau unigol a chyfrifiadau grŵp, i ddarllenwyr panel sydd wedi’u cysylltu â systemau rhedfa neu gratiau pwyso, ac sy’n gweithio gyda meddalwedd rheoli fferm i gasglu cyfoeth o wybodaeth am anifeiliaid unigol a phreiddiau.
Gellir adnabod rhifau EID a chyflawni cyfrifiadau grŵp yn syml gan ddefnyddio darllenydd a chyfrifiadur (mae rhai darllenwyr yn gallu trawsyrru’n syth i gyfrifiadur hefyd). Fodd bynnag, i gael budd o adnabod electronig er mwyn cynorthwyo i reoli eich praidd a gwella eich dulliau rheoli, bydd angen i chi fuddsoddi mewn rhaglen feddalwedd i gasglu a dadansoddi’r data.
Ar gyfer preiddiau bach, fe allai system gymharol rad fod yn ddigonol, ond ar gyfer niferoedd mwy, bydd angen i chi ystyried buddsoddi mewn darllenwyr a meddalwedd perfformiad uwch er mwyn i chi allu dal mwy o wybodaeth a chyflawni amrywiaeth ehangach o dasgau rheoli.
Cysylltwch â chyflenwyr i drafod y dewisiadau sydd ar gael i weddu orau i’ch amgylchiadau.
Mae trawsatebwyr dwplecs cyflawn (FDX) a hanner dwplecs (HDX) yn darllen sglodion mewn ffyrdd ychydig yn wahanol. O ran HDX, bydd y darllenydd yn anfon signal a bydd y tag yn ateb, ond gydag FDX, cyn gynted ag y bydd y tag yn derbyn signal y darllenydd, bydd y tag a’r darllenydd yn siarad ar yr un pryd.
Mae gan dagiau HDX amrediad darllen uwch ac fe’u defnyddir ar gyfer gwartheg. Mae gan dagiau FDX amrediad darllen llai ac felly fe’u defnyddir ar gyfer defaid. Mae’n rhaid i ddarllenwyr allu darllen tagiau FDX a HDX i fodloni safonau ISO.
Mae’n debygol y bydd angen i’r pecynnau meddalwedd rheoli praidd amrywiol gael eu huwchraddio ychydig er mwyn anfon data’n uniongyrchol i EID Cymru. Cyn i chi brynu eich meddalwedd, gofynnwch i’ch cyflenwr pa un a fydd yn rhoi uwchraddiad i chi i gael mynediad at EIDCymru ac a fydd tâl am hynny.
Dylai’r tag EID gael ei osod yng nghlust chwith anifail. Mae hyn yn darparu safon ar gyfer y diwydiant ac yn golygu y gall darllenwyr gael eu gosod yn y mannau mwyaf priodol fel y gall anifeiliaid gael eu darllen yn rhwydd ni waeth i ble y byddant yn symud yn ystod eu hoes.
Dylai darllenwyr gael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r cyflenwr, ond y pellteroedd bras ar gyfer darllenydd llaw yw 12cm ar gyfer tag clust ac 20cm ar gyfer bolws yn y rwmen. Mae darllenwyr sefydlog (darllenwyr statig neu banel) yn darllen pob math o ddyfeisiau adnabod ar bellter nodweddiadol o 50cm.
Sylwch sut mae hyn yn cymharu â’r pellteroedd o ble y gall gwahanol bethau amharu ar signalau EID (gweler isod).
Gall sawl peth effeithio ar allu darllenydd i ddarllen tag neu folws ac nid yw o reidrwydd yn golygu bod y tag yn ddiffygiol. Gall motorau trydanol (yn enwedig motorau cyflymder amrywiol), peiriannau sy’n rhedeg, rhwbio toeon haearn a goleuadau fflworoleuol oll amharu ar y signal.
Gall darllenydd panel/statig hefyd dderbyn darlleniadau o ffynonellau cyfagos eraill gan gynnwys dyfeisiau eraill, ffobiau allweddi ceir a chŵn sydd â microsglodyn wedi’i osod ynddynt.
Gall ymyriant effeithio ar ddarllenwyr hyd at bellter o tua 100 metr. Ceisiwch osgoi defnyddio darllenydd ffon a darllenydd panel yn agos i’w gilydd oherwydd fe allant amharu ar ei gilydd. Mae bob amser yn ddefnyddiol cadw tag EID sbâr wrth law fel y gallwch brofi’r system cyn dechrau.
Gall dur amsugno’r maes ynni o’r darllenydd, felly yn hytrach na bod y maes ynni’n darllen y tag, mae’r ynni’n cael ei amsugno i’r dur o’i amgylch. Mae rhai darllenwyr yn gallu gweithio’n dda o fewn cratiau pwyso dur di-staen a rhedfeydd clwydi dur galfanedig, ond nid yw hyn yn wir am eraill, felly os ydych chi eisiau defnyddio eich darllenydd yn agos i ddur, gwnewch yn siwr y bydd yn gweithio yn yr amgylchiadau hynny cyn i chi fuddsoddi.
Yn gyffredinol, ceisiwch osgoi gosod darllenwyr mewn amgylchedd dur oni bai eich bod chi wedi gwneud rhywfaint o “brofi a methu” er mwyn canfod y safle darllen gorau.
Mae angen i ddarllenwyr gael eu tiwnio i’w hamgylchedd i wneud iawn am unrhyw aflonyddwch neu ymyriant fel dur, peiriannau sy’n rhedeg (tractorau ac ati), goleuadau fflworoleuol ac ati.
Gall darllenwyr hunandiwnio eich helpu i ganfod yr amodau gweithio gorau a’i gwneud yn rhwydd i chi fynd â darllenwyr o un lleoliad i’r llall heb effeithio ar berfformiad.
Mae cysylltiad Bluetooth yn galluogi dyfeisiau electronig, er enghraifft darllenydd a monitor pwysau neu ddarllenydd a chyfrifiadur, i gyfathrebu’n awtomatig â’i gilydd heb fod angen cysylltiadau cebl (trawsyrru gwybodaeth yn ddi-wifr).
Gall ymchwydd pŵer, gwreichion neu gylched byr cydgysylltiol ddifrodi dyfeisiau. Gwnewch yn siwr fod pob eitem wedi’i chysylltu â’i ffynhonnell bŵer ei hun (uned cyflenwi pŵer neu fatri mewnol neu allanol (newidydd)).
Yn gyffredinol, gall darllenydd ddarllen cynifer o dagiau ag y gallwch eu cyflwyno iddo. O ran defaid, fe all hyn olygu hyd at 400-500 yr awr.