Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn rheng flaen y diwydiant cig coch yng Nghymru, wrth hybu ei ddatblygiad, ei hyrwyddiad a’i farchnata gyda gweledigaeth glir: i feithrin diwydiant proffidiol, effeithlon, cynaliadwy, arloesol a chystadleuol sy’n gallu ymdopi â newidiadau gwleidyddol ac amgylcheddol ac sydd o fudd i bobl Cymru. Mae ganddo gylch gwaith statudol ac mae’n cyflawni Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010.
Wedi cyfnod o newid, mae’r corff ardoll cig coch bellach yn bwriadu recriwtio ei Brif Weithredwr newydd i arwain y sefydliad i’w gam nesaf o ddatblygu.
“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn ymuno â Hybu Cig Cymru. Wrth i ni gychwyn ar bennod newydd, rydym yn chwilio am Brif Weithredwr eithriadol i’n harwain i mewn i’n cam nesaf o ddatblygiad o fewn diwydiant deinamig sy’n esblygu,” meddai Cadeirydd HCC, Catherine Smith.
Mae hon yn rôl hollbwysig ar gyfer arweinydd dylanwadol sy’n rhagori o ran creu perthynas a meithrin cysylltiadau cadarn â Llywodraeth Cymru, ffermwyr, proseswyr, arweinwyr diwydiant a phartneriaid eraill ar draws y sector amaethyddol, a bydd y gadwyn gyflenwi cig coch yn hanfodol wrth lunio dyfodol y sefydliad a’i effaith ar y diwydiant cig coch.
“Wrth fod yn Brif Weithredwr newydd i ni, bydd yr ymgeisydd iawn yn gyfrifol am gyflawni camau olaf ein strategaeth Gweledigaeth 25 cyn llunio gweledigaeth newydd ar gyfer HCC; un sydd nid yn unig yn ysgogi twf cynaliadwy ond sydd hefyd yn gwneud y sefydliad yn enghraifft o ragoriaeth o fewn y sector o 2026 a thu hwnt. Os gallwch chi ysbrydoli tîm sy'n byw a bod yn y sector hwn i ddilyn y weledigaeth honno a bod yn ysbrydoledig wrth gyflwyno newidiadau sy'n ymgorffori nid yn unig safonau technegol a gweithredol uchel, ond hefyd ymrwymiad gwirioneddol a thosturi tuag at y bobl sy'n hwyluso ein llwyddiant, yna rydym am glywed gennych,” ychwanegodd Catherine Smith.
Yn ogystal â’r cyfrifoldebau hyn, bydd y Prif Weithredwr yn cael ei ddynodi’n Swyddog Cyfrifyddu gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddiogelu’n gall a thryloyw.
Pwysleisiodd Mrs Smith fod y swydd yn gyfle unigryw i gael effaith barhaol, nid yn unig ar y sefydliad, ond ar wead economaidd y diwydiant amaethyddol a’r gadwyn gyflenwi cig coch yng Nghymru a thu hwnt.
“Mae ar HCC angen ymgeisydd sy’n gallu arwain gyda dylanwad, hygrededd ac uchelgais i gael effaith gadarnhaol a pharhaol er budd ein holl randdeiliaid allweddol. Bydd angen arbenigedd mewn rheoli newid a thrawsnewid oherwydd bod cyd-destun ffermio yng Nghymru yn newid, a bydd yn rhaid i’n Prif Weithredwr newydd helpu’r sefydliad a’r sector cig coch i nodi a llywio cyfnod o newid sydd i ddod.
“I wneud y rôl hon mor ddylanwadol ac effeithiol â phosib, rhaid i'n Prif Weithredwr ymgorffori'r mathau o ymddygiad sy'n meithrin diwylliant cryf a thosturiol sy'n cael ei yrru gan ganlyniadau. Trwy arwain gydag empathi, dylanwad, creadigrwydd a phenderfyniad bydd yn ysbrydoli rhagoriaeth, yn sbarduno twf sefydliadol ac yn hyrwyddo diwylliant sy’n seiliedig ar gydweithio ac uchelgais,” meddai Cadeirydd HCC, Catherine Smith.
Mae rhagor o fanylion a gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma: https://www.goodsonthomas.com/view-job/17261422206490016518eku