Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn atgoffa defnyddwyr am fanteision cig coch fel rhan o ddeiet cytbwys ar gyfer iechyd plant. Daw hyn yn dilyn adroddiad gan Academi’r Gwyddorau Meddygol, sy’n pwysleisio’r angen am weithredu ar frys i wella iechyd plant dan 5.
Mae gordewdra, sy’n cael ei restri fel mater o bwys yn yr adroddiad, wedi cael ei gysylltu mewn sawl achos gyda diet a maeth gwael.
Wrth ymateb i’r newyddion yma, meddai Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC: “Mae deiet cytbwys yn hanfodol bwysig wrth son am iechyd plant. Mae’r argyfwng costau byw a chyllidebau llai y Llywodraeth, yn ogystal â gwasanaeth iechyd sydd dan bwysau eithriadol, yn ffactorau sy’n cael effaith niweidiol ar iechyd plant fel sy’n cael ei amlinellu yn yr adroddiad.
“Er hynny, mae diet cytbwys, sy’n cynnwys y swm sy’n cael ei argymell o gig coch, yn hanfodol wrth fynd i’r afael â phryderon iechyd. Nid oes un math o fwyd yn cynnwys yr holl faeth sydd ei angen ar gyfer bod yn iach, felly mae’n bwysig ein bod yn bwyta amrywiaeth eang o fwydydd gwahanol bob dydd. Ond, gan ei fod yn llawn fitaminau a mineralau hanfodol mae diet cytbwys gyda chig coch yn ganolog iddo yn gallu helpu i gadw pobl o bob oed yn iach a hapus.
“Mae ffermwyr yma yng Nghymru yn cynhyrchu bwyd maethlon, cynaliadwy sy’n garedig i’r amgylchedd ac mae ein plant, sy’n cael eu cam gan sawl system, yn haeddu gwell.”