Gall ymwelwyr â Sioe Dinbych a Fflint (Dydd Iau 15 Awst 2024) edrych ymlaen at fwyd danteithiol am y bydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn eu hysbrydoli â ryseitiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI blasus a maethlon, ynghyd ag arddangosiad coginio arbennig a fydd yn dangos amlbwrpasedd y cigoedd.
Y sawl a fydd yn llywio’r cyfan, gan dechrau am 10am yn y Neuadd Fwyd, fydd Swyddog Gweithredol y Defnyddwyr yn HCC, Elwen Roberts. Bydd hi’n codi awch bwyd y gynulleidfa wrth goginio tameidiau blasus a maethlon ac adrodd hanes clodwiw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Bydd y cynhwysion, gan gynnwys caws, iogwrt a chwrw, wedi dod o ffynonellau lleol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr yn yr ardal.
Mae’r sioe yng nghanol prydferthwch Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych ac yn denu tua 18,000 o ymwelwyr bob blwyddyn drwy gynnig diwrnod gwych i’r teulu cyfan.
Dywedodd Elwen Roberts, wrth iddi baratoi ar gyfer y sioe: “Rydym yn edrych ymlaen at Sioe Dinbych a Fflint ac at ddarparu arddangosiad coginio i’r ymwelwyr.
“Mae sioeau sirol fel hon yn elfen bwysig o’n diwylliant a’n ffordd o fyw ac rydym yn falch o fod yn chwarae rhan fechan ynddi eto eleni. Mae hefyd yn gyfle gwych i ni dynnu sylw at fanteision maethol Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru fel rhan o ddiet iach a chytbwys ac edrychaf ymlaen at weld llawer ohonoch chi ar faes y sioe.”
Bydd Elwen yn esbonio rhinweddau maethol cig coch drwy bwysleisio fod y cyfoeth o brotein, fitaminau a mwynau sydd ynddo yn cynnig llawer o fanteision iechyd.
Mae cig coch yn cynnwys y mathau o haearn a sinc sy'n cael eu hamsugno'n well gan ein cyrff na'r rhai a geir mewn unrhyw ffynhonnell ddietegol arall. Mae haearn hema o gig coch yn cael ei amsugno 2-6 gwaith yn well na ffynonellau haearn sydd heb hema.
Mae bwyta Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru blasus fel rhan o ddiet iach a chytbwys yn ffordd ragorol o wneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyn sydd ei angen arnoch ar gyfer iechyd da – fel y bwriadwyd gan natur.