Bydd y ffactorau sy’n sbarduno’r galw am Gig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn cael eu trin a’u trafod yn ystod Cynhadledd Hybu Cig Cymru (HCC) eleni, sy’n dwyn y teitl ‘Llwyddo mewn marchnadoedd byd eang a domestig.’
Fe gynhelir y digwyddiad ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Iau 14 Tachwedd. Anogir rhanddeiliaid blaengar i fynychu a chyfrannu at y drafodaeth ar sut y gall dilyn y farchnad, a thargedu’r bobl iawn ar yr amser iawn, gynnal llwyddiant diwydiant cig coch Cymru, yn y wlad yma a thramor.
Bydd amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn gosod y cyd-destun o sawl safbwynt, gan ddechrau gyda thrafodaeth ar gyfleoedd byd eang a’r farchnad Halal, cyn ystyried gofynion manwerthwyr a defnyddwyr.
Gwahoddir unigolion o bob rhan o’r gadwyn gyfle i fynychu’r gynhadledd rhwng 2:00-6:30pm, am wybodaeth ar sut i gynhyrchu i gwrdd â gofynion y farchnad.
Meddai Laura Pickup, Pennaeth Marchnata a Chysylltiadau Strategol HCC: “Mae gan Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru enw da yn fyd eang am ei ragoriaeth ac mae’r brandiau’n cael eu hymddiried gan gwsmeriaid masnach a defnyddwyr ar draws y byd. Er mwyn cynnal y safon yma, mae’n rhaid i’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru gydweithio i ymateb i signalau’r farchnad er mwyn sicrhau bod ein brandiau cig coch yn parhau’n addas i’r diben yn y dyfodol.
“Bydd Cynhadledd 2024 yn archwilio’r ffactorau sy’n gyrru’r galw yn fyd eang a domestig, yn dathlu sut mae HCC yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r gadwyn gyflenwi i ymateb i’r galw, ac yn arddangos arfer da o fewn y diwydiant.
“Bydd pawb sy’n mynychu yn elwa o fewnwelediad unigryw i’r diwydiant, ac o glywed sut mae HCC yn defnyddio arian ardoll i gael canlyniadau arbennig mewn marchnadoedd allforio a domestig, sy’n cynnwys llwyddiant ysgubol ein hymgyrch Cig Oen Cymru ddiweddaraf.”
Bydd arbenigwr o Sky AdSmart yn cyflwyno ar y diwrnod ac yn egluro sut mae defnyddwyr yn cael eu targedu yn y byd digidol, ac yna bydd cynrychiolydd o’r manwerthwyr a ffermwyr yn egluro sut maen nhw’n ymateb i ofynion y farchnad.
Yn ôl yr arfer, bydd aelodau Bwrdd HCC yn bresennol ar y diwrnod i ateb cwestiynau’r gynulleidfa, a gellir eu cyflwyno ymlaen llaw neu ar y diwrnod.
Ychwanegodd Laura Pickup: “Mae’r digwyddiad yn un o uchafbwyntiau ein calendr; mae’n gyfle i rannu newyddion a gwybodaeth gydag amrywiaeth o randdeiliaid a sgwrsio gydag unigolion blaenllaw o’r sector.
“Bydd croeso cynnes i bob un sydd â diddordeb. Cadwch lygad am fwy o wybodaeth ar wefan HCC ac ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Mae mwy o wybodaeth ar wefan HCC: hybucig.cymru
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â HCC ar: info@hybucig.cymru / 01970 625050