Mae ffermwr o ganolbarth Cymru sy’n rhan o brosiect monitro glaswellt wedi gweld cynnydd mewn enillion a gwelliant o ran effeithlonrwydd y busnes.
Ymunodd Richard Rees â phrosiect GrassCheckGB yn 2022 ac mae’r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol; llwyddwyd i besgi’r ŵyn 55 niwrnod yn gynt y llynedd nag yn y flwyddyn flaenorol, a gostyngodd y defnydd o fewnbynnau.
Mae’r fferm yn un o 50 o ffermydd defaid, cig eidion a llaeth dros y DU sy’n rhan o’r prosiect. Disgwylir i’r ffermwyr fesur eu porfa drwy gydol y tymor pori a chyflwyno samplau i’w dadansoddi. Mae’r data a ddaw yn sgil hynny yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ar dyfiant porfa yn lleol a rhanbarthol, ynghyd â’r cyngor rheoli defnyddiol a ddarperir ar gyfer y gymuned ffermio.
Ar y cyd a’i frawd Huw Llyr, mae Richard yn rhedeg Penmaen Bach, fferm 60ha o dir isel yn bennaf, wedi'i lleoli ger Pennal ac aber Afon Dyfi yn ne Gwynedd. Maen nhw’n cadw diadell o 400 o famogiaid Aberfield croes sy’n cael hwrdd Abermax a’r nod yw pesgi’r holl ŵyn oddi ar borfa ar system bori cylchdro sydd hefyd yn cynnwys sicori a llyriad.
Meddai Richard: “Mae gen i ddiddordeb mewn pori wedi’i reoli ers blynyddoedd. Mae lleoliad Penmaen Bach yn golygu ei bod yn fferm lle mae porfa’n tyfu’n dda, felly rydym ni’n ceisio cadw’r costau mor isel â phosib drwy wneud y defnydd gorau o’r glaswellt, gyda chnydau gwreiddlysiau yn y gaeaf.
“Ond roeddem yn gweld bod pesgi ŵyn oddi ar y borfa yn mynd yn fwyfwy anodd, er gwaethaf cynnal profion Cyfrif Wyau Ysgarthol (FEC) a rhoi triniaeth yn ôl yr angen.”
Eglurodd Richard: “Roeddem yn credu i ddechrau fod gennym broblemau gyda mwynau a maetholion yn y pridd. Felly, pan glywsom am y prosiect, fe wnaethon ni neidio ar y cyfle i gymryd rhan a dadansoddi ein mwynau fel y cam cyntaf.”
Cymerwyd samplau o’r holl gaeau ar y fferm 220-erw a'u hanfon i'w dadansoddi trwy GrasscheckGB. Dangosodd y canlyniadau nad oedd unrhyw gobalt yn gweithio yn nhir isel y fferm nac yn y tir pori garw. Yn ogystal, roedd yna ychydig o ddiffyg seleniwm, ïodin a sinc yn y caeau.
Meddai Richard: “Aethom ati’n syth i ddatrys y broblem drwy roi bolysau i’r ddiadell ar ddiwedd 2022. Yn ogystal, rydym wedi bod yn mesur tyfiant y borfa yn rheolaidd - mae pori cylchdro yn gwneud hyn yn haws gan nad ydym yn delio drwy’r amser â phorfa fer.”
Ers gwneud y newidiadau, mae'r fferm wedi gweld arbediad blynyddol o £4,000. Rhoddwyd y gorau i roi dwysfwydydd i’r ŵyn Aberfield X Abermax yn 2023, am fod gwell defnydd yn cael ei wneud o’r borfa.
Meddai Richard: “Cafwyd gwelliant aruthrol yng ngwerthiant yr ŵyn y llynedd. Tynnwyd yr ŵyn olaf oddi ar y borfa ym mis Medi – 55 diwrnod ar gyfartaledd yn gynharach nag yn y blynyddoedd blaenorol – a chawson nhw eu pesgi heb unrhyw ddwysfwyd. Rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniadau.”
Ychwanegodd: “Mae’r prosiect wedi ein helpu i leihau’r mewnbynnau’n sylweddol ac i gynnal cynhyrchiant wrth besgi ŵyn heb unrhyw ddidolborthiant – maen nhw i gyd yn cael eu pesgi oddi ar y borfa. Cafodd yr anghydbwysedd mwynau ei gywiro ac rydym wedi stopio defnyddio gwrtaith Nitrogen.”
Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol Ymchwil, Datblygu a Chynaliadwyedd yn Hybu Cig Cymru (HCC) - sy’n bartner ym mhrosiect GrassCheckGB: “Mae Penmaen Bach wedi dangos sut mae defnyddio data o’r fferm, yn cynnwys cofnodion y tywydd a mesuriadau porfa, yn ei gwneud hi’n bosib gwneud gwell penderfyniadau busnes. Mae cael data yn helpu ffermwyr i flaen gynllunio, gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.
“Mae porfa yn adnodd hynod o bwysig ar y fferm. Mae 80% o dir amaethyddol Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau; mae’n hanfodol felly ein bod yn gwneud y defnydd gorau ohono ar gyfer magu da byw a chynhyrchu cig coch o ansawdd.”