Mae ffigurau allforio cig eidion yn ystod misoedd cyntaf eleni yn dangos cynnydd - a gallai’r cynnydd barhau oherwydd yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae llai o gig coch yn cael ei gynhyrchu yng ngwledydd yr UE.
Yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn, allforiodd Prydain 27,150 tunnell o gig eidion, sef 3.7 y cant yn fwy na’r flwyddyn flaenorol, a chafwyd cynnydd o 0.7 y cant yng ngwerth yr allforion hyn.Aeth 85 y cant i’r UE, gyda gwledydd y tu allan i’r UE yn derbyn 66 y cant yn fwy a Hong Kong â chynnydd enfawr o 84 y cant mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol.
Hefyd, cafwyd cynnydd da yn yr allforion cig oen ym misoedd Ionawr a Chwefror, ac roedd y gostyngiad ym mis Mawrth o ganlyniad i gynnydd yn y galw yng ngwledydd Prydain; serch hynny, roedd gwerth allforion yn y chwarter cyntaf i fyny 13 y cant ac roedd y cyfeintiau yn uwch nag yn 2021 a 2022.
“Mae’r ffigurau hyn, gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yn galonogol iawn ac yn ôl adroddiad gan Gomisiwn yr UE, mae disgwyl i gynhyrchiant cig eidion, ostwng 2.3 y cant yn 2024, oherwydd newidiadau strwythurol i’r buchesi sugno a llaeth,” meddai Elizabeth Swancott, Uwch Swyddog Gwybodaeth am y Farchnad, Ymchwil a Datblygu yn Hybu Cig Cymru (HCC).
Mae hyn yn dilyn gostyngiad o 2.8 y cant mewn cynhyrchiant yn 2023, pan gafwyd gostyngiad o 160,000 yn niferoedd y gwartheg sugno a gostyngiad o 344,000 yn y fuches laeth. Mae cynhyrchiant cig defaid yr UE hefyd wedi gostwng pump y cant yn dilyn crebachu hirdymor a olygodd ostyngiad o 6 miliwn oddi ar 2019.
“Er ei bod bob amser yn anodd proffwydo’r hyn a allai ddigwydd, mae unrhyw ostyngiad yn y cyflenwad yn golygu cyfleoedd posibl ar gyfer mwy o allforion o’r DG i bartner masnachu mawr. Ochr yn ochr â’r cyfleoedd hyn i gig eidion, mae gan gig defaid gyfleoedd hefyd. Am fod llai o’r cig ar gael a’r prisiau’n uchel o ganlyniad, rhagwelir y bydd cynnydd o 2.5 y cant mewn allforion i’r UE drwy gydol 2024,” meddai Elizabeth.
Dywedodd fod arwyddion o gyflenwad cyfyngedig o ŵyn ym mhob marchnad, gyda llai o ŵyn o Brydain ar gael i’w hallforio a mwy o gig oen yn aros ar y farchnad gartref oherwydd galw mawr ym mis Mawrth. “Rhoddwyd hwb gan wyliau crefyddol y Pasg, Eid al-Fitr a Ramadan, pan fo cig oen yn cael ei fwyta’n draddodiadol,” esboniodd Elizabeth.
“Cafodd Ffrainc, ein partner masnach pwysicaf o ran allforion, 13 y cant yn fwy o gig oen na’r llynedd o Brydain.Mae hynny’n arwydd da ar gyfer y dyfodol oherwydd mae Ffrainc erbyn hyn yn derbyn dros hanner, sef oddeutu 54 y cant, o holl allforion cig oen Prydain,” meddai Elizabeth.