Mae’r chwilio wedi dechrau am ysgolor Hybu Cig Cymru (HCC) 2024! Mae Ysgoloriaeth HCC yn agored i unrhyw un dros 18 mlwydd oed sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru. Mae'n werth £4,000 ac mae'n gwobrwyo unigolion sydd am astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu cig coch unrhyw le yn y byd.
Mae'r ysgoloriaeth deithio bellach ar agor a bydd yn cau ar 1 Mawrth 2024.
Ymhlith enillwyr blaenorol mae academyddion, ffermwyr, cigyddion, proseswyr a newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, ac mae'r pynciau a astudiwyd yn amrywio o'r defnydd o borfa a bridio detholus i wella costau cynhyrchu a systemau graddio rhyngwladol ar gyfer cig eidion.
Gall ysgolorion ddewis astudio unrhyw bwnc o fewn y gadwyn gyflenwi cig coch, sydd o fudd iddyn nhw eu hunain ac i'r diwydiant yn gyffredinol. Gall teithiau astudio bara hyd at chwe wythnos a disgwylir i ysgolorion ysgrifennu adroddiad a rhannu eu canfyddiadau â'r diwydiant ar ôl iddyn nhw ddychwelyd.
Dywedodd Swyddog Gweithredol Datblygu'r Diwydiant yn HCC, James Ruggeri: “Mae Ysgoloriaeth HCC yn bodoli ers dros ugain mlynedd ac mae’n gyfle heb ei ail i unrhyw un sy’n ymwneud â’r diwydiant cig coch yng Nghymru i astudio agwedd ar y sector mewn unrhyw ran o’r byd. Mae Ffrainc, Seland Newydd, UDA a Chile ymhlith y nifer fawr o wledydd bu Ysgolorion HCC yn ymweld â nhw yn y blynyddoedd diwethaf. Yn wahanol i Ysgoloriaethau eraill, does dim terfyn oedran ar Ysgoloriaeth HCC. Rydym yn chwilio am unigolion uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i wella eu dealltwriaeth eu hunain, ac ar yr un pryd chwarae rhan yn natblygiad y diwydiant cyfan.”
Dywedodd Ysgolor HCC 2023, Tudor Roderick: “Mae’r ysgoloriaeth yn gyfle gwych i deithio a dysgu am systemau ffermio gwahanol. Yn ystod fy nhaith i Awstralia, cefais gyfle i gyfarfod â nifer fawr o fridwyr defaid ysbrydoledig ac angerddol a roddodd fewnwelediad manwl i mi o’u busnesau. Byddwn yn argymell unrhyw un sydd â diddordeb mewn teithio a dysgu mwy am ffermio mewn gwlad dramor i wneud cais am yr ysgoloriaeth.”
Dywedodd Ysgolor HCC 2023, Dan Jones, a fu’n astudio arferion ffermio yn UDA a’r DG er mwyn deall y technegau a’r datblygiadau diweddaraf mewn pori cadwraethol a ffermio’r ucheldir: “Byddwn yn annog unrhyw un sy’n gymwys i wneud cais am y cyfle hwn! Mae’n gyfle gwych i deithio a gweld diwylliannau gwahanol. Mae’n agor eich meddwl ac yn eich herio. Mae HCC yn cynnig cyfle gwych i bobl fuddsoddi yn eu hunain a’u gyrfaoedd – felly, gwnewch gais.”
Ychwanegodd James Ruggeri: “Mae HCC yn ymdrechu i sicrhau bod gan y diwydiant cig coch yng Nghymru ddyfodol sy’n broffidiol, effeithlon a chynaliadwy. Mae'r ysgoloriaeth hon yn golygu y gallwn feithrin gwell dealltwriaeth a chefnogi'r rhai sy'n teimlo mor angerddol â ni am ein diwydiant ac sy'n gweithio tuag at weld y weledigaeth honno'n ffynnu. Rwy’n dymuno pob lwc i bawb sy’n ymgeisio!”
Mae gan Gymdeithas Ysgoloriaeth HCC aelodaeth unigryw o ffermwyr arobryn, academyddion o fri a phobl nodedig o fewn y diwydiant – a phob un ohonyn nhw wedi cwblhau Ysgoloriaeth HCC. Cadeirydd presennol y Gymdeithas Ysgoloriaethau yw’r ffermwr defaid a chig eidion, Will Evans o Fachynlleth, a'r Is-Gadeirydd yw James Powell.
I wneud cais am yr Ysgoloriaeth, dylai unigolion sydd â diddordeb lenwi'r ffurflen gais ar wefan HCC, a bydd cyfweliad yn dilyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer. Y cyfnod ymgeisio yw o ddydd Llun 12 Chwefror 2024 tan 5pm ar 1 Mawrth 2024. Mae'r manylion llawn a chyfarwyddyd ynghylch sut i wneud cais ar gael yma:https://meatpromotion.wales/en/industry-resources/scholarship-and-careers/hcc-scholarship