Roedd hanes cynaliadwyedd Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI, yn ogystal â’u blas danteithiol a maethlon, yn cael y prif sylw pan groesawodd Hybu Cig Cymru (HCC) ddirprwyaeth fasnach o’r Eidal i helpu i gryfhau’r berthynas allforio.
Yn ystod yr ymweliad, a oedd yn cynnwys taith o amgylch y cyfleusterau prosesu ar safle Kepak ym Merthyr Tudful ac ymweliad â fferm Newton, sef menter cig eidion a defaid ger Aberhonddu, gwelodd yr ymwelwyr sut mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu cynhyrchu a’u paratoi ar gyfer cadwyn fwyd y DG a marchnadoedd allforio fel yr Eidal.
Roedd yr ymweliad yn dilyn gweithgarwch y llynedd pan drefnodd HCC ddau ddigwyddiad ar gyfer y farchnad allforio bwysig hon, sef Dosbarth Meistr i Gwmni Gwasanaeth Bwyd Eidalaidd, pan gafwyd cyflwyniad gan HCC ar gyfer aelodau’r tîm gwerthu a Chinio Gala i arddangos Cig Oen Cymru yn Fenis.
Cafodd yr ymwelwyr diweddaraf groeso cynnes ar fferm y teulu Roderick sy’n ffermio cig eidion a defaid yn Nyffryn Wysg ger Aberhonddu. Mae ganddyn nhw fuches o 100 o fuchod Stabiliser ac maen nhw’n gwerthu gwartheg cig wedi’u pesgi yn ogystal â theirw a heffrod ar gyfer magu. Hefyd, maen nhw’n cadw 1100 o famogiaid ac maen nhw wrthi’n newid o system amnewid croes Suffolk prŷn gydag wyna dan do i famogiaid cyfansawdd hunan-amnewid sydd yn wyna yn yr awyr agored. Maen nhw'n tyfu rhai cnydau âr, betys porthiant, swêds ac amrywiaeth o wndwn. Y nod yw sicrhau'r allbwn mwyaf posibl o'r hyn y gellir ei gynhyrchu'n gynaliadwy ar y fferm, a phrynu llai o borthiant a gwrtaith.
Ar ôl i Richard Roderick ddangos eu system ffermio i’r prynwyr cig oen a chig eidion o’r Eidal, dywedodd: “Roedd yn hyfryd cael yr haul yn gwenu wrth i ni drafod cynhyrchu cig oen a chig eidion ar ffermydd teuluol ledled Cymru. Gwnaed argraff ar yr Eidalwyr o glywed am y ffordd naturiol a chynaliadwy y mae da byw yn cael eu magu yng Nghymru a sut mae hynny’n gwella bioamrywiaeth ac yn diogelu ansawdd y dŵr.
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Pennaeth Marchnata a Chysylltiadau Strategol HCC, Laura Pickup: “Mae wastad yn bleser arddangos yr hyn sy’n gwneud Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gynnyrch premiwm gartref a thramor. Trwy gyfrwng ymweliadau fel hyn rydym yn gallu dod â’n cwsmeriaid mewn marchnadoedd hollbwysig i gysylltiad â chynhyrchwyr llawr gwlad a gallan nhw weld yn y fan a’r lle beth sy’n gwneud ein cig coch yn gynaliadwy a sut mae’n cael ei baratoi mewn modd proffesiynol ar gyfer ei allforio.”
Dywedodd Leighton Jones, Uwch Reolwr Caffael Kepak: “Roedd Kepak yn falch iawn o allu croesawu’r ymwelwyr a chael y cyfle i arddangos ymroddiad ffermwyr fel y teulu Roderick wrth gynhyrchu Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI yn gynaliadwy ar gyfer cadwyn gyflenwi Kepak. Roedd hefyd yn gyfle gwych i ddangos y buddsoddiadau pwysig a wnaed yn ddiweddar yn ein cyfleusterau o'r radd flaenaf ym Merthyr Tudful.”