Mae ychwanegu 11 rhywogaeth newydd o laswellt a meillion at y rhestr a argymhellir wedi’i groesawu gan Hybu Cig Cymru. Y bwriad o’u cynnwys yw gwneud tir glas yn fwy cynhyrchiol, ar adeg pan fo costau cynhyrchu yn bryder o’r mwyaf i ffermwyr da byw. Drwy ddefnyddio hadau sydd ar y Rhestr a Argymhellir, gall ffermwyr wneud y defnydd gorau o borthiant ar y fferm, a gall hyn yn ei dro helpu i leihau costau porthiant a gwella effeithlonrwydd.
Mae’r rhywogaethau a gafodd eu hychwanegu at y Rhestr swyddogol o Laswellt a Meillion a Argymhellir (RGCL) yn cynnwys dau rygwellt Eidalaidd, chwe rhygwellt lluosflwydd, dau fath o faglys ac un rhywogaeth ffestwloliwm.
Dywedodd Dr Heather McCalman, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer Ymchwil a Datblygu a Chynaliadwyedd: “Mae yna fanteision mawr drwy ddewis y rhywogaethau diweddaraf o laswellt a meillion sy'n cynnig y nodweddion gorau megis cnwd, treuliadwyedd, a thwf tymhorol oherwydd buddsoddiad sylweddol gan fridwyr planhigion i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a chynhyrchiant.
“Gall ffermwyr Cymru ddefnyddio’r llawlyfr rhagorol hwn i wneud y gorau o’r amrywiaeth o rywogaethau sydd ar gael a dewis cymysgeddau i ddiwallu anghenion eu da byw. Boed yn ddefaid sy’n pori neu’n laswellt ar gyfer silwair aml-doriad, mae yna rywogaeth i bob pwrpas.”
Gall yr RGCL helpu ffermwyr i ddeall nodweddion perfformiad gwahanol rywogaethau, megis cynnyrch, perfformiad parhaus, ansawdd ac ymwrthedd i glefydau, ynghyd â dewis y rhai sy’n addas ar gyfer eu system ffermio nhw.
Mae’r broses drylwyr o ddethol ar gyfer rhywogaethau newydd o laswellt yn sicrhau eu bod yn ddibynadwy ac yn perfformio’n dda. Mae pob rhywogaeth newydd yn cael chwe blynedd o brofion annibynnol ar draws safleoedd treialu’r DG, gan asesu cyfanswm y cynnyrch blynyddol, twf tymhorol, cynnyrch ynni metaboladwy, caledwch yn y gaeaf, a gwrthsefyll clefydau. Mae ailasesiad, ar ôl pum mlynedd ychwanegol o dreialon, yn penderfynu a ddylid argymell bod rhywogaeth â statws amodol (PG/PS) yn cael ei mabwysiadu'n ddiamod (G).
Mae rhaglen dreialu’r Rhestr a Argymhellir ar gyfer Glaswellt a Meillion (RL) yn cael ei rheoli gan NIAB ar ran y BSPB, gyda safleoedd treialu ledled y wlad yn cael eu rhedeg gan NIAB, IBERS, DLF, DSV a safleoedd clefyd sy’n cael eu rhedeg gan NIAB a Barenbrug. Mae'r rhestrau'n adeiladu ar ddata cychwynnol y treialon Rhestru Rhywogaethau Cenedlaethol (sydd hefyd yn cael eu rheoli gan NIAB ar ran y BSPB i APHA), sy'n cynnwys safleoedd sy'n cael eu rhedeg gan AFBI, SRUC a SASA.
Caiff rhaglen dreialu’r Rhestrau a Argymhellir ei hariannu, drwy’r BSPB, gan fridwyr ac asiantau planhigion, gyda chyfraniadau gan yr AHDB a HCC.
Dywedodd Ellie Sweetman, Arbenigwr Cnydau Porthiant yn NIAB a Chydlynydd Treialon RGCL ar ran BSPB: “I gael lle ar yr RGCL, rhaid i rywogaethau gynnig gwelliant clir i’r rhestr bresennol. Mae hyn yn gwthio'r safon i fyny drwy’r amser gyda chynnyrch cynyddol, defnyddio maetholion yn effeithlon a chynnyrch EM yr hectar, gan gynyddu effeithlonrwydd cynhyrchu a chynaliadwyedd. Bydd ailhadu gyda rhywogaethau RGCL yn cynyddu perfformiad y tir glas ac yn rhoi elw da i’r buddsoddiad. Trwy ddarparu data annibynnol cywir, mae'r RGCL yn hwyluso penderfyniadau gwybodus o ran dewis rhywogaethau a chymysgeddau ar gyfer amodau penodol ffermydd ac anifeiliaid.
“Yn ogystal â gwybodaeth am rywogaethau, mae’r RGCL yn cynnig cyngor technegol i ffermwyr ar ail-hadu er mwyn gwneud tir glas mor gynhyrchiol â phosibl.”