Mae tîm ymroddedig o staff Hybu Cig Cymru (HCC) ac EID Cymru ar fin mynd i’r afael â thri chopa uchaf Cymru ar drothwy Wythnos Iechyd Meddwl (13-19 Mai 2024) sydd â’r thema: ‘Symud: Symud mwy er lles ein hiechyd meddwl’.
Bydd deunaw aelod y tîm yn cychwyn yn oriau mân ddydd Sadwrn 11 Mai o waelod Yr Wyddfa er mwyn dringo’r mynydd hwnnw, Cadair Idris a Phen-y-fan mewn cyfnod o 24 awr. Y nod yw codi arian tuag at wahanol achosion elusennol gan gynnwys yr elusen iechyd meddwl, Tir Dewi; Ambiwlans Awyr Cymru; a Sefydliad Prydeinig y Galon.
Arweinydd y fenter yw Swyddog Gweithredol Ymgyrchoedd HCC, Philippa Gill, a ddywedodd: “Mae iechyd meddwl yn cael effaith ar bawb ohonom mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae cerdded a mynd allan i’r awyr iach yn ffordd wych o helpu ein hiechyd meddwl a dyna pam rydyn ni’n mynd i’r afael â’r her hon ar drothwy Wythnos Iechyd Meddwl.
“Dydy pawb ohonom ddim yn symud cymaint ag y dylem. Trwy fynd allan i’r awyr iach i hyfforddi ar gyfer yr her hon gyda’r tîm am fisoedd lawer, rydyn ni i gyd yn teimlo’n well ac wedi mwynhau’r sgwrsio pan oeddem allan yn cerdded.”
Ychwanegodd cadeirydd HCC, Cath Smith: “Rwy’n dymuno pob lwc i’r tîm ac yn gobeithio y bydd y tywydd yn garedig. Fel sefydliad, rydym yn poeni am les meddwl ein tîm a hefyd lles y diwydiant yn gyffredinol.
“Trwy fentrau fel hyn, ein nod yw codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i’r rhai sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, ynghyd ag annog pobl i estyn allan a rhannu’r baich a pheidio â dioddef yn dawel.
“Mae’r diwydiant amaethyddol, er ei fod yn wydn, wedi gorfod delio â thywydd eithriadol o wlyb ac mae’n wynebu newidiadau aruthrol yn ystod y misoedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae’n bwysicach nag erioed nawr i bawb gadw llygad ar ei gilydd a chyfeirio pobl at gymorth os yw’n ymddangos fod angen cymorth arnyn nhw. Mae gennym lawer o fynyddoedd i’w dringo yn y dyfodol agos, ond am y tro, dymunaf bob lwc i aelodau’r tîm wrth iddyn nhw ddringo tri chopa uchaf Cymru.”