Mae data newydd yn awgrymu bod mwy o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi cael eu bwyta i ginio Nadolig y llynedd wrth i rai defnyddwyr roi’r gorau i’r twrci traddodiadol.
Mae Bwletin y Farchnad gan Hybu Cig Cymru (HCC) y mis hwn yn canolbwyntio ar ddata newydd gan yr arbenigwyr ar y defnydd o fwyd, Kantar, sy’n awgrymu bod cig eidion a chig oen, a oedd yn rhan o ymgyrch hyrwyddo gan HCC cyn y Nadolig, wedi gwneud yn dda yn ystod yr ŵyl.
“Mae’r wybodaeth yn awgrymu bod mwy o bobl, yn ymwybodol o bwysau chwyddiant, wedi cefnu ar dwrci ffres eleni,” meddai Glesni Phillips, awdur Bwletin y Farchnad a Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC. “Trodd rhai o’r bobl hyn at gig oen i’w rostio a golygodd hynny £978,000 o wariant ychwanegol ar y cig hwnnw.”
Cafodd dros 30 y cant yn fwy o ddarnau cig oen i’w rhostio eu gwerthu na’r flwyddyn flaenorol yn ystod y cyfnod perthnasol o 12-wythnos a chafwyd cynnydd o 24 y cant yn nifer y prynwyr.
“O ganlyniad, mae cyfanswm y darnau o goesau cig oen i’w rhostio a werthwyd yn 2023 oddeutu 14 y cant yn fwy na’r flwyddyn flaenorol a dyna oedd 43 y cant o’r holl gig oen a werthwyd yn y siopau,” meddai Glesni.
Wrth edrych ymlaen, dywedodd: “Gall gostyngiad mewn chwyddiant olygu y bydd defnyddwyr yn dychwelyd at eu hen arferion. Fodd bynnag, bydd y cyflenwad ar y farchnad gartref yn dal i fod yn dynn o’i gymharu â lefelau hanesyddol. Hefyd, bydd digwyddiadau crefyddol sydd ar ddod yn rhoi hwb i’r galw am gig oen; ond nid yw’r Pasg cynnar eleni mor fanteisiol i'n cynhyrchwyr.”
Yn ôl Bwletin y Farchnad, yn ystod y 12 wythnos hyd at 24 Rhagfyr 2023, gwerthwyd cyfanswm o 16,100 tunnell fetrig o gig oen, sef cynnydd nodedig o 15 y cant mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol. Bu gostyngiad bach o ddau y cant yn y pris cyfartalog yn y siopau – i gyfartaledd o £11.30/kg – a gallai hynny fod wedi denu mwy o bobl i brynu. O ganlyniad, cafodd 13 y cant yn fwy ei wario na’r flwyddyn flaenorol, gan gyrraedd £182 miliwn.
Yn ystod yr un 12 wythnos, cafodd bron i 6 y cant yn fwy o gig eidion ei werthu na’r llynedd yn siopau’r DG, sef gwerth £636 miliwn. Roedd y cynnydd hwn mewn gwariant wedi’i ysgogi’n bennaf gan gynnydd o 7 y cant yn y pris cyfartalog i £9.57/kg, gan fod gostyngiad bychan o 1.5 y cant ym mhwysau’r cig a werthwyd.
Dywedodd Glesni y cafodd 1.5 y cant yn llai o friwgig ei werthu na’r llynedd. “Mae’n debygol taw’r rheswm am hyn oedd cynnydd o 16 y cant yn y pris cyfartalog – fodd bynnag, mae gwerthiant briwgig yn dal i gyfrif am dros 50 y cant o gyfanswm yr holl gig eidion a werthir.
“Roedd gwerthiant stêcs yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, ond gwelwyd cynnydd nodedig o 8 y cant yng nghyfaint y darnau i’w rhostio.”
Dywedodd fod data Kantar yn dangos fod cyfanswm gwerth y nwyddau cartref a werthwyd yn y siopau ym Mhrydain wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed o £13.8 biliwn yn ystod y 4 wythnos hyd at 24 Rhagfyr, sef cynnydd nodedig o 7 y cant o’r naill flwyddyn i’r llall. “Daeth hyn o ganlyniad i gynnydd yn nifer y teithiau siopa, ynghyd â chwyddiant o 6.7 y cant mewn nwyddau groser,” meddai Glesni.