Unwaith eto, cafwyd cynnydd sylweddol mewn allforion Cig Oen Cymru a chig defaid arall o Gymru. Yn ôl ystadegau swyddogol newydd ar gyfer 2023, roedd y cynnydd dros ddeg y cant mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r data gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn dangos bod bron i 30,500 tunnell o gig defaid wedi cael ei allforio o Gymru, sef cynnydd o 12 y cant. Roedd gwerth y cig hwnnw’n £190.9 miliwn, sef deg y cant yn uwch.
“Mae’n newyddion gwych ac mae’n braf iawn, ar ôl Brexit, i weld taw mwy o gig yn mynd i’r Undeb Ewropeaidd oedd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd mawr hwn o ran maint a gwerth,” meddai Laura Pickup, Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC.
“Mae’n glod i’n tîm allforio fod cyfeintiau’r cig defaid ffres ac wedi’i rewi a allforiwyd o Gymru i’r UE i fyny tua 13 y cant mewn cymhariaeth â’r flwyddyn flaenorol. Yn ogystal, roedd gwerth y cig, sef £179.3 miliwn, i fyny 14 y cant.”
Dywedodd fod Ffrainc a’r Almaen yn dal i dderbyn pwysau sylweddol o gig defaid o Gymru a bod HCC “wrth ei fodd bod y ffigurau ar gyfer yr Iseldiroedd a’r Eidal yn cynyddu’n gyflym, gyda chynnydd anhygoel o bron i 40 y cant ym mhwysau’r cig a allforiwyd i’r Eidal. “
Dywedodd Ms Pickup, er bod y ffermwr yng Nghymru wedi derbyn prisiau da y llynedd, mae Cig Oen Cymru yn dal i fod yn gystadleuol yn y farchnad fyd-eang.
Dangosodd data newydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar gyfer cig eidion a chig defaid fod cyfanswm gwerth yr allforion cig coch o Gymru ar gyfer 2023 wedi cyrraedd £267.9 miliwn, mewn cymhariaeth â £257.5 miliwn yn 2022, sef cynnydd o 4.1 y cant. Yn ogystal, amcangyfrifwyd bod cyfanswm yr allforion cig coch Cymru ar gyfer 2023 yn agos i 48,500 tunnell, sef cynnydd o 0.5 y cant o’r naill flwyddyn i’r llall.
“Mae’r cyfeintiau yn dal i wella, ond maen nhw’n dal i fod tua 13 y cant yn llai na’r uchafbwynt o 55,500 tunnell a gafwyd yn 2020. Er ein bod wedi gweld cynnydd o 33 y cant yng ngwerth y cig eidion a allforiwyd i Hong Kong, mae gwerth yr holl allforion cig eidion o Gymru ar gyfer 2023 wedi disgyn i £77.1 miliwn, sef wyth y cant yn is na’r flwyddyn flaenorol, ac allforiwyd 14 y cant yn llai o gig eidion,” meddai Ms Pickup.