Bu dirprwyaeth o arbenigwyr cig o un o gyfanwerthwyr mwyaf yr Eidal yng Nghymru i ddysgu mwy am y modd y mae Cig Oen Cymru PGI yn cael ei gynhyrchu i’r fath safon uchel.
Ymunodd ugain o arbenigwyr o gwmni Gesco-Amadori, un o ddosbarthwyr cig mwyaf blaenllaw’r Eidal, â swyddogion o Hybu Cig Cymru (HCC) ar daith ddeuddydd yng Nghymru. Bu’r grŵp yn ymweld â ffatri brosesu, yn ogystal â gweld drostynt eu hunain sut mae ŵyn Cig Oen Cymru PGI yn cael eu magu ar y fferm. Hefyd, bu modd i’r ymwelwyr fwynhau Cig Oen Cymru yn ystod arddangosiad coginio a dosbarth meistr.
Darparodd Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, Elwen Roberts, ddosbarth meistr Cig Oen Cymru, gan arddangos nifer o seigiau a grëwyd yn arbennig ar gyfer y farchnad Eidalaidd. Roedd y rhain yn cynnwys rac Cig Oen Cymru â briwsion, mwstard a pherlysiau wedi’i weini â llysiau rhost Môr y Canoldir a jws gwin coch; canon Cig Oen Cymru a chanapes pesto ac ysgwydd Cig Oen Cymru wedi'i ddarnio gyda mozzarella, bara gwastad a dail ffres.
Roedd yr ymwelwyr yn gallu gwell safonau uchel ffermwyr Cymru yn ystod ymweliad â Dai Charles Evans ar ei fferm yn Silian, ger Llanbedr Pont Steffan. Mae Mr Evans yn cadw diadell o 500 o famogiaid magu yn ogystal â buches o wartheg Stabilizer. Ef yw’r bumed genhedlaeth i fod yn ffermwr cig eidion a defaid, ac mae’n rhedeg y fferm mewn partneriaeth â’i wraig a’i fab. Dangosodd ei systemau cynhyrchu i’r Eidalwyr, gan gynnwys y defnydd o borfa a’r rhaglen fridio lwyddiannus.
Esboniodd Arweinydd Datblygu’r Farchnad yn HCC, Jason Craig: “Mae’r Eidal yn farchnad allforio allweddol i Gig Oen Cymru ac roeddem yn falch iawn o allu trefnu’r daith hon i gwsmeriaid pwysig. Gwnaeth y dirwedd werdd a naturiol lle mae’r ŵyn sy’n cynhyrchu Cig Oen Cymru yn cael eu magu argraff ar yr ymwelwyr a mwynhaodd bob un yr arddangosiadau a'r sesiynau blasu a ddarparwyd gan Elwen.
“Mae dangos yn uniongyrchol i brynwyr yr ymroddiad a’r grefft sy’n rhan o gynhyrchu Cig Oen Cymru o ansawdd uchel wedi bod yn elfen allweddol o strategaeth allforio HCC ac mae’n galluogi ein cwsmeriaid i sylweddoli pa mor arbennig yw ein cynnyrch mewn gwirionedd. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Dai Charles Evans am roi croeso gwych i’n gwesteion o’r Eidal ac am ein helpu i adrodd hanes Cig Oen Cymru mor effeithiol.”