Bydd ciniawyr yng Nghymru yn gallu dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy fwyta Cig Oen Cymru lleol, wedi’i gynhyrchu’n gynaliadwy, mewn tafarndai gastro, diolch i ymdrech farchnata arbennig gan Hybu Cig Cymru (HCC).
Cafwyd dathliadau ar y cyntaf o Fawrth i anrhydeddu Dewi Sant oddi ar y ddeuddegfed ganrif, pan ddaeth yn nawddsant Cymru. Gan ystyried pwysigrwydd diwylliannol y diwrnod, mae HCC wedi bod yn arwain y ffordd wrth weithio gyda’r sector Gwestai, Bwytai ac Arlwyo i wneud yn siŵr bod Cig Oen Cymru yn cael lle amlwg ar fwydlenni a bod tafarndai’n gwneud y gorau o’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan yr achlysur hollbwysig hwn.
Wrth esbonio mwy am yr ymgyrch, dywedodd Pennaeth Marchnata Strategol a Chysylltiadau HCC, Laura Pickup: “Mae Dydd Gŵyl Dewi yn golygu ymdrochi yn yr ysbryd Cymreig. Felly wrth fwyta allan, bydd pobl yn chwilio am fwydlenni sy’n adlewyrchu’r diwrnod i’r dim.
“Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n glòs gyda thafarndai a bwytai i ofalu bod gan Gig Oen Cymru le anrhydeddus wrth y bwrdd ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni. Mae gwaith o’r fath yn hollbwysig i ni oherwydd mae’n golygu cyfleoedd masnachu pellach yma gartref, ynghyd â hybu’r gwaith o ddatblygu a hyrwyddo’r farchnad y mae HCC yn ei wneud dramor ar ran y talwyr ardoll.”