Porfa yw’r cnwd pwysicaf i’r sector da yng Nghymru. Mae’n sail i’r diwydiant da byw gan roi mantais gystadleuol allweddol i amaethyddiaeth Cymru yn erbyn llawer o ranbarthau cynhyrchu da byw eraill ledled y byd.
Porfa yw’r bwyd rhataf y mae ffermwyr yn gallu ei dyfu, ac mae’n fwyd o safon uchel i ddefaid a gwartheg. Mae gwella rheolaeth glaswelltir yn effeithiol yn sbardun allweddol i broffidioldeb ar ffermydd cig eidion a defaid gyda phob tunnell ychwanegol o ddeunydd sych yn cael ei ddefnyddio fesul hectar gwerth £204 y flwyddyn. Felly, bydd gwelliannau mewn rheoli pori yn helpu i gynyddu ansawdd a maint y glaswellt a dyfir, gwneud y gorau o gyfraddau twf da byw a gwella gallu cario tir.
Mae’r adran hon yn amlinellu rhai prosiectau yn y gorffennol y mae HCC wedi bod yn rhan ohonynt. Isod mae rhai cyhoeddiadau ar reoli glaswelltir, dŵr a phriddoedd.